Neidio i'r prif gynnwy

Hylifau

Mae yfed yn bwysig er mwyn sicrhau ein bod yn hydradu'n ddigonol. Gall dadhydradu arwain hefyd at anallu i ganolbwyntio, blinder, cur pen a phenysgafnder.

Anelwch at yfed 6 - 8 gwydraid o hylif bob dydd. Gall dŵr, llaeth â llai o fraster a diodydd heb siwgr gan gynnwys te a choffi oll gyfrannu at y cyfanswm. Mae sudd ffrwythau a smwddis hefyd yn cyfrif tuag at eich cymeriant hylif, ond maent yn ffynhonell o siwgr, felly dylech eu cyfyngu i ddim mwy na 150ml y dydd gyda'i gilydd. Pan fo'r tywydd yn gynnes, neu pan fyddwch yn egnïol, sicrhewch eich bod yn cael mwy o hylifau.