Gan fod NWSC yn ganolfan gofal dewisol, mae'n gofalu am gleifion sy'n cael llawdriniaethau wedi'u cynllunio (rhai nad ydynt yn rhai brys) yn unig. Mae hyn yn golygu bod siawns is o lawer y bydd eich llawdriniaeth yn cael ei chanslo o'i gymharu ag un sydd wedi'i threfnu yn un o'n hysbytai cyffredinol mwy, lle gall achosion brys weithiau ohirio triniaethau wedi'u cynllunio.
Y llawfeddygon ymgynghorol ac anesthetyddion sy'n gweithio yn eich ysbyty lleol yw'r un meddygon sy'n gofalu amdanoch chi yma. Cefnogir y rhain gan dîm medrus a phrofiadol o nyrsys a gweithwyr yn y proffesiynau perthynol i iechyd a fydd yn gofalu amdanoch chi drwy gydol eich arhosiad.
Diolch i dechnegau llawfeddygol ac anesthetig modern, ac arbenigedd ein tîm ymroddedig, mae llawer o gleifion yn gallu mynd adref ar yr un diwrnod â'u llawdriniaeth neu ar ôl dim ond un noson yn yr ysbyty. Dyma'r dull safonol bellach mewn llawer o ganolfannau orthopedig ledled y wlad.
Efallai y bydd angen ychydig mwy o amser ar rai pobl i wella, ac mae hynny'n hollol iawn - byddwn ni'n eich rhyddhau pan fydd hi'n ddiogel i chi fynd adref a phan fyddwch chi'n teimlo'n barod.
Mae cael llawdriniaeth i osod cymal newydd yn daith, ac mae'n dda gwybod beth i'w ddisgwyl ym mhob cam. Bydd paratoi a bod yn rhan weithredol o'ch gofal yn gwneud gwahaniaeth mawr yn ystod eich adferiad.
Bydd ein tîm yn eich tywys drwy'r broses, ond mae eich ymdrech a'ch ymrwymiad chi yr un mor bwysig — bydd sut rydych chi'n paratoi ac yn cymryd rhan yn eich adferiad yn cael effaith wirioneddol ar eich canlyniad.