Cynllun Iechyd Menywod Cymru | Cynllun Iechyd Menywod Cymru: Flwyddyn yn Ddiweddarach, Adroddiad Blynyddol | Deunyddiau Dysgu i Bobl Ifanc
Diweddariad ar yr Hwb Iechyd Menywod, 22 Gorffenaf 2026
Ar hyn o bryd, nid yw'r Hwb Iechyd Menywod* yn gweithredu, ac nid oes apwyntiadau ar gael.
Os oes angen cyngor neu gymorth ynghylch pryderon iechyd menywod, cysylltwch â'ch meddygfa i gael mynediad at ofal, triniaeth a chyngor.
Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i wella ein gwasanaethau i fenywod ledled Gogledd Cymru, rydym yn ystyried sut y gellir cynnig gwasanaethau i fenywod Gogledd Cymru yn y dyfodol. Mae'r gwaith hwn yn cefnogi'r blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Iechyd Menywod Cymru, sy'n anelu at wella gwasanaethau iechyd menywod ledled Cymru.
*Sefydlwyd yr Hwb Iechyd Menywod yn Ysbyty Llandudno fel gwasanaeth braenaru i brofi ffyrdd newydd o roi cefnogaeth i fenywod ynghylch y menopos, atal cenhedlu ac iechyd mislif. Daeth y cyfnod braenaru i ben ar 31 Mawrth 2026 ac rydym wrthi'n gwerthuso'r gwasanaeth i ddeall ei effaith a nodi gwersi a all helpu i lunio gwasanaethau iechyd menywod ledled Gogledd Cymru yn y dyfodol.