SilverCloud yw llwyfan therapi ar-lein sy’n defnyddio dulliau megis Therapi Ymddygiad Gwybyddol i helpu pobl i reoli eu problemau drwy eu hannog i newid y ffordd maent yn meddwl ac yn ymddwyn.
Gall defnyddwyr ddewis o 17 rhaglen iechyd meddwl a lles ar-lein i’w gwblhau yn eu hamser ei hunain dros 12 wythnos. Mae’r opsiynau’n cynnwys help gyda phryder, iselder, straen, cwsg a phroblemau ariannol.
Mae bob rhaglen yn cynnwys gweithgareddau ac adnoddau rhyngweithiol i helpu defnyddwyr i ddatblygu sgiliau i reoli eu lles seicolegol gyda mwy o hyder.