Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r Cynllun Cychwyn Iach?

Mae’r rhai sy’n feichiog, y rhai sydd â phlentyn o dan 12 mis a phlant hyd at bedair blwydd oed sy’n derbyn Cychwyn Iach yn gymwys i dderbyn fitaminau Cychwyn Iach. Mae’r rhain ar gael gan dimau bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd lleol, neu gan fferyllfeydd cymunedol sy’n rhan o’r cynllun.

Os ydych yn gymwys, bydd cerdyn Cychwyn Iach yn cael ei anfon atoch gydag arian arno a gallwch ddefnyddio hwn mewn rhai siopau yn y DU, a bydd taliad ychwanegol yn cael ei roi ar y cerdyn bob 4 wythnos. 

Byddwch yn cael:

  • £4.65 bob wythnos yn ystod eich beichiogrwydd (o’r 10fed wythnos ymlaen)
  • £9.30 yr wythnos i blant o’u geni  i flwydd oed
  • £4.65 yr wythnos i blant rhwng 1 a 4 oed

Ni fyddwch yn gymwys i’w dderbyn wedi i’ch plentyn gyrraedd 4 oed.

Beth allwch chi ei brynu gyda'r cerdyn Cychwyn Iach?

Dim ond rhai mathau o laeth, llaeth fformiwla, ffrwythau a llysiau y cewch chi eu prynu.

Ffrwythau a llysiau

Gall y rhain fod yn:

  • ffres, wedi’u rhewi neu mewn tun
  • cod-lysiau ffres, sych neu dun
  • ffrwythau cyfan neu wedi'u torri'n fân
  • frwythau wedi'u pecynnu neu'n rhydd
  • ffrwythau mewn sudd ffrwythau, neu ffrwythau neu lysiau mewn dŵr

Llaeth buwch plaen

Mae angen i hwn fod yn laeth buwch plaen, sydd wedi’i basteureiddio, wedi’i sterileiddio, yn para’n hir neu wedi cael ei drin mewn gwres uchel (UHT).

Fformiwla babanod

Rhaid i hyn fod yn:

  • fformiwla cam cyntaf yn unig (fformiwla cynaf babanod)
  • wedi'i wneud o laeth buwch
  • yn gyflawn o ran maeth

Chwiliwch am complete nutrition’, ‘from birth’, ‘from birth to 6 months’, neu ‘from birth to 12 months’ ar y label.

Ni all fod yn fformiwla ‘follow-on’ (o dan y labeli ‘from 6 months’, neu’n laeth ‘from 6 to 12 months’).

Gallwch ddod o hyd i ragor am fformiwlâu babanod yn Dewisiadau'r GIG.