Neidio i'r prif gynnwy

Technegau anadlu ac ymlacio

Y nod yw defnyddio anadlu i'ch helpu i fod yn dawel eich meddwl, a wnaiff eich helpu i ymdopi â'r boen. Nid yw ymlacio yn diddymu'r boen, ond pan fyddwch yn dawel eich meddwl, byddwch yn profi llai o boen.

Mae hypno-eni yn ddull anadlu gwych y gellir ei ddefnyddio i leddfu poen wrth esgor. Mae hypno-eni yn defnyddio cyfuniad o ddychmygu, technegau anadlu ac ymlacio, a gellir ei ddefnyddio beth bynnag fo'r dull o eni'n baban y byddwch wedi'i ddewis.