Os ydych chi'n ceisio dod yn feichiog, efallai eich bod yn meddwl am eich ffrwythlondeb a pha un ai a allwch wella hynny. Efallai bod rhai ffactorau na allwch eu rheoli megis anawsterau meddygol sy'n effeithio ar y gallu i genhedlu plentyn. Gall dewisiadau ffordd o fyw effeithio ar eich ffrwythlondeb hefyd.
Gall dewis ffordd iach o fyw eich helpu i wella eich ffrwythlondeb. Dyma rywfaint o gyngor defnyddiol ynghylch iechyd i'w ystyried
Gall eich pwysau effeithio ar eich cyfle i ddod yn feichiog, a dyna pam mae cynnal pwysau iach yn bwysig. Gall pwyso gormod leihau cenhedlu naturiol, gall waethygu syndrom ofarïau polysystig (PCOS) a gall wneud i ansawdd y sberm waethygu.
Gall pwyso gormod effeithio ar driniaethau ffrwythloni:
Gall colli pwysau wella canlyniadau ffrwythloni trwy helpu i gysoni'r gylchred fislifol (y mislif) a gwella'r posibilrwydd o ofylu'n naturiol. Argymhellir colli pwysau yn raddol yn hytrach na dietau cyflym. Rhagor o wybodaeth am fwyta'n iach a cholli pwysau.
Gall ysmygu tybaco a chymryd sylweddau adloniant leihau'r posibilrwydd o genhedlu'n naturiol a lleihau cyfraddau llwyddiant triniaethau ffrwythloni.
Mae Helpa Fi i Stopio yn cynnig cymorth un ac un yn rhad ac am ddim gan eich cynghorydd personol ynghylch rhoi'r gorau i ysmygu.
Fel rhan o'n gwasanaethau ffrwythloni, byddwch yn cael cyngor ynghylch sicrhau bod eich iechyd cystal ag y gall fod. Trwy ddilyn y cyngor hwn ynghylch iechyd a ffordd o fyw, gallwch wella cyfraddau llwyddiant os bydd angen triniaethau ffrwythloni.