Neidio i'r prif gynnwy

Solihull Approach - Cyrsiau ar-lein am ddim i rieni a gofalwyr

Dysgu ar-lein i holl deuluoedd ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys dysgu iechyd emosiynol ac iechyd meddwl arbenigol i bobl ifanc yn eu harddegau.

Yn seiliedig ar Solihull Approach ac wedi'i ddylunio gan weithwyr proffesiynol y GIG, dewch o hyd i gyrsiau wedi'u teilwra ar gyfer eich anghenion chi neu anghenion eich plentyn.

 Cofrestrwch gyda'r cod mynediad NWSOL i ddeall teimladau ac ymddygiad eich plentyn yn well a'u magu i fod yn ymwybodol o’u hemosiynau, yn gymdeithasol ac i fod yn hyderus. Gyda gwybodaeth wedi'i deilwra ar gyfer pob cam o ddatblygiad plentyn, mae rhywbeth i helpu pob aelod o'r teulu trwy ddysgu adfyfyriol a chefnogol heb farnu.

 

Cliciwch yma er mwyn cychwyn   

Defnyddiwch y cod NWSOL i gael mynediad i'r cyrsiau yn rhad ac am ddim

Dechreuwch rwan!

Dewch yn riant mwy hyderus drwy ddysgu am ddatblygiad ymennydd plant, ymddygiad heriol, cyfathrebu a'ch anghenion lles eich hun oherwydd mae magu plant yn daith sy'n newid bob amser!

 

Mae Solihull Approach yn ymwneud ag iechyd a lles emosiynol bob plentyn a'u teuluoedd fel y gallant ffynnu fel pobl garedig, cymdeithasol ac yn ymwybodol o’u hemosiynau trwy gydol eu bywydau. Datblygir cyrsiau Solihull Approach ar-lein gan seicolegwyr mewn partneriaeth ag arbenigwyr iechyd, ysgolion a seicotherapyddion, yn ogystal â rhieni. 

 

I gael rhestr lawn o'r cyrsiau sydd ar gael yn amrywio o gyn-enedigaeth ac ôl-enedigol i ddeall eich plentyn a'ch plentyn yn ei arddegau, ewch i lyfrgell y cwrs ar safle Inourplace.

Cofrestrwch gyda'n cod NWSOL i greu cyfrif a dechrau dysgu ar unwaith. Bydd yr holl wybodaeth bersonol a nodwch yn aros yn breifat. Mae eich ymatebion i'r cwestiynau monitro yn ddienw.

Gall Solihull Approach anfon e-bost atoch o bryd i'w gilydd i ddweud wrthych am ddiweddariadau i'r cyrsiau. Mae mwy o wybodaeth am breifatrwydd ar gael yma.

Os oes gennych gwestiynau neu ymholiadau, cysylltwch â ni: BCU.NWSOL@wales.nhs.uk

Os oes gennych ymholiadau technegol, cysylltwch â'r tîm cymorth cenedlaethol: solihull.approach@uhb.nhs.uk   

 

Dilynwch ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol

  •