Rydym ni'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i oedolion yng Ngogledd Cymru sydd angen colli pwysau am resymau iechyd. Defnyddiwch y gyfrifiannell BMI a darllenwch yr wybodaeth isod am ein rhaglenni i ganfod pa opsiynau sy'n addas i chi.
Gallwch gyfeirio eich hun drwy gwblhau ffurflen hunangyfeirio. Rydym hefyd yn derbyn cyfeiriadau gan weithwyr iechyd proffesiynol. Byddwn yn cynnig yr opsiynau mwyaf priodol ar gyfer eich anghenion chi, sydd wedi'u seilio ar eich gwybodaeth chi.