Neidio i'r prif gynnwy

Merched beichiog

Bydd merched beichiog yn cael cynnig brechlyn rhag y ffliw y GIG fel rhan o'u gwiriadau iechyd beichiogrwydd arferol

Bydd y brechlyn hwn yn helpu i amddiffyn merched beichiog rhag y ffliw ar adeg pan fo eu system imiwnedd yn wannach yn naturiol. 

Gall merched beichiog gael brechlyn rhag y ffliw unrhyw bryd yn ystod eu beichiogrwydd. Er mwyn sicrhau'r amddiffyniad gorau posibl i'ch babi a chi, trefnwch apwyntiad i gael eich brechu cyn gynted â phosibl yr hydref hwn.

Bydd eich meddygfa neu eich bydwraig gymunedol yn cysylltu â chi i gynnig apwyntiad, neu cadwch lygad am glinigau sy’n cael eu hysbysebu gan eich meddygfa, lle gellir archebu apwyntiad.

Gall menywod beichiog nad ydynt wedi cael brechlyn rhag y ffliw gan y GIG y gaeaf hwn hefyd ymweld ag un o'n clinigau brechu cymunedol heb apwyntiad i gael y brechlyn.
 

Brechu rhag RSV a phertwsis

Bydd merched hefyd yn cael cynnig brechlynnau rhag pertwsis (y pâs) ac RSV yn ystod eu beichiogrwydd. Os oes gennych system imiwnedd wannach oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol, efallai y byddwch yn derbyn cynnig brechlyn rhag COVID-19.

Manteisiwch ar y cynnig i amddiffyn eich hun a'ch babi rhag risg o salwch difrifol.