Gall pob gweithiwr iechyd a gofal alw heibio i un o’n canolfannau brechu cymunedol i gael eu brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 a’u brechu rhag y ffliw – mae mwy o fanylion am ein clinigau gweithiwr iechyd a gofal yma.
Gall staff Betsi Cadwaladr neu staff eraill y GIG dderbyn eu brechlyn ffliw rhad ac am ddim mewn nifer o ffyrdd - yn y gwaith trwy frechwr cymheiriaid, mewn clinig brechu staff, neu mewn fferyllfa gymunedol leol neu meddygfa.
Os ydych eisoes wedi derbyn llythyr gyda manylion eich apwyntiad ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu, gallwch gadw at y dyddiad a’r amser yn eich llythyr neu cewch alw heibio i ganolfan frechu cyn hynny. Os dewiswch alw heibio, nid oes angen cysylltu â ni i ganslo eich apwyntiad.
Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer staff Betsi Cadwaladr neu staff eraill y GIG ar gael gan eich rheolwr llinell neu ar system fewnrwyd BetsiNet.