Er mwyn helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, gall pobl sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan ymweld â'u fferyllfa gymunedol leol i gael eu brechlyn ffliw.
Os oes gan eich meddygfa gofnod eich bod yn gyswllt cartref i rywun sydd â system imiwnedd wan (neu os ydych yn perthyn i un neu fwy o'r grwpiau blaenoriaeth eraill), efallai y cewch eich gwahodd i gael eich brechlyn ffliw yn eich meddygfa.
Efallai y bydd angen i chi wneud apwyntiad. Os byddwch yn derbyn gwahoddiad i gael eich brechlyn ffliw am ddim, manteisiwch ar y cyfle.
O 2 Ionawr ymlaen, gall pob oedolyn sy’n gymwys ar gyfer y brechiad ffliw alw heibio i un o’n clinigau brechu cymunedol i roi hwb i’w amddiffyniad heb drefnu apwyntiad.
Er mwyn helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, bydd pawb 12 oed a throsodd sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref.
Gall unrhyw un sy'n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref alw heibio un o'n canolfannau brechu er mwyn cynyddu eu hamddiffyniad rhag y firws y gaeaf hwn. Ceir manylion am lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd ein clinigau yma.
Os ydych eisoes wedi derbyn llythyr gyda manylion eich apwyntiad ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu, gallwch gadw at y dyddiad a’r amser yn eich llythyr neu cewch alw heibio i ganolfan frechu cyn hynny. Os dewiswch alw heibio, nid oes angen cysylltu â ni i ganslo eich apwyntiad.