Neidio i'r prif gynnwy

Pobl 65 oed neu hŷn

Y Ffliw

Gall unrhyw un sy'n 65 oed neu'n hŷn gael brechlyn ffliw am ddim yn eu meddygfa, neu yn un o'r nifer o fferyllfeydd cymunedol sy'n cynnig gwasanaeth brechu ar draws Gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys pobl a fydd yn cael eu pen-blwydd yn 65 oed ar neu cyn 31 Mawrth, 2024.

Gall unrhyw un sy'n 65 oed neu'n hŷn dderbyn eu brechlyn ffliw am ddim yn eu meddygfa, neu yn un o’r fferyllfeydd cymunedol niferus sy’n cynnig gwasanaeth brechu ar draws Gogledd Cymru. Efallai y bydd angen i chi wneud apwyntiad. Os byddwch yn derbyn gwahoddiad i gael eich brechlyn ffliw am ddim, manteisiwch ar y cyfle.

O 2 Ionawr ymlaen, gall pob oedolyn sy’n gymwys ar gyfer y brechiad ffliw alw heibio i un o’n clinigau brechu cymunedol i roi hwb i’w amddiffyniad heb drefnu apwyntiad.

 

COVID-19

Gall unrhyw un sy'n 65 oed neu'n hŷn gael pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref. Mae hyn yn cynnwys pobl a fydd yn cael eu pen-blwydd yn 65 oed ar neu cyn 31 Mawrth, 2024.

Gall unrhyw un sy'n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref alw heibio un o'n canolfannau brechu er mwyn cynyddu eu hamddiffyniad rhag y firws y gaeaf hwn. Ceir manylion am lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd ein clinigau yma.

Os ydych eisoes wedi derbyn llythyr gyda manylion eich apwyntiad ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu, gallwch gadw at y dyddiad a’r amser yn eich llythyr neu cewch alw heibio i ganolfan frechu cyn hynny. Os dewiswch alw heibio, nid oes angen cysylltu â ni i ganslo eich apwyntiad.