Bydd menywod beichiog yn cael cynnig brechlyn ffliw am ddim yn eu meddygfa fel rhan o'u gwiriadau iechyd beichiogrwydd arferol. Fel arfer byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu apwyntiad yn eich meddygfa.
Gall menywod beichiog gael y brechlyn ffliw am ddim ar unrhyw adeg yn ystod eu beichiogrwydd. Er mwyn sicrhau'r amddiffyniad gorau posibl i chi a'ch babi, trefnwch apwyntiad i gael eich brechu cyn gynted â phosibl y gaeaf hwn.
Nid yw'n rhy hwyr i atgyfnerthu’ch amddiffyniad rhag y ffliw. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â'ch brechlyn ffliw, cysylltwch â'ch bydwraig gymunedol.
Er mwyn helpu i amddiffyn darpar famau a babanod sy'n datblygu, bydd pob menyw feichiog yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref.
Bydd manylion eich apwyntiad brechu yn cael eu hanfon atoch. Efallai y cewch eich gwahodd i fynychu eich meddygfa neu ganolfan frechu.
Cadwch at yr apwyntiad a gynigir i chi os yn bosibl.