Neidio i'r prif gynnwy

Gofalwyr

Y Ffliw

Er mwyn helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, gall pob gofalwr 16 oed neu hŷn gael brechlyn ffliw am ddim yr hydref hwn.

O 2 Ionawr ymlaen, gall pob oedolyn sy’n gymwys ar gyfer y brechiad ffliw alw heibio i un o’n clinigau brechu cymunedol i roi hwb i’w amddiffyniad heb drefnu apwyntiad.

Gall gofalwyr fynd i'w fferyllfa gymunedol leol i gael eu brechlyn ffliw am ddim. Os oes gan eich meddygfa gofnod eich bod yn ofalwr (neu os ydych yn perthyn i un neu fwy o'r grwpiau blaenoriaeth eraill), efallai y cewch eich gwahodd i gael eich brechlyn ffliw yn eich meddygfa.

Efallai y bydd angen i chi wneud apwyntiad. Os byddwch yn derbyn gwahoddiad i gael eich brechlyn ffliw am ddim, manteisiwch ar y cyfle.

 

COVID-19

Er mwyn helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, bydd pob gofalwr 16 oed neu hŷn yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref.

Gall unrhyw un sy'n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref alw heibio un o'n canolfannau brechu er mwyn cynyddu eu hamddiffyniad rhag y firws y gaeaf hwn. Ceir manylion am lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd ein clinigau yma.

Os ydych eisoes wedi derbyn llythyr gyda manylion eich apwyntiad ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu, gallwch gadw at y dyddiad a’r amser yn eich llythyr neu cewch alw heibio i ganolfan frechu cyn hynny. Os dewiswch alw heibio, nid oes angen cysylltu â ni i ganslo eich apwyntiad.