Neidio i'r prif gynnwy

Jack

“Mae gen i lawer mwy o egni. Rydw i’n anadlu’n well. Rydw i’n llawer mwy positif a dydw i ddim mor swrth.”

Rhoddodd Jack y gorau i smygu gyda chymorth Helpa Fi i Stopio. Erbyn hyn, mae’n cyfri’r buddion - teimlo’n well, arbed arian ac edrych ymlaen at ei gynlluniau newydd ar gyfer teithio.

Roedd Jack wedi ceisio cael gwared â’i sigaréts a’i daniwr sawl tro ond y gefnogaeth rad ac am ddim, cyfeillgar a strwythuredig gan Jo, ei gynghorydd Helpa Fi i Stopio, a wnaeth ei helpu i roi’r gorau am byth.

Ac mae’r dyn ifanc 21 mlwydd oed o’r Rhyl, wedi cael swydd newydd fel gwerthwr beiciau modur – swydd mae’n angerddol amdani.

“Roeddwn i’n meddwl mai smygwr cymdeithasol oeddwn i, ond roeddwn i’n gaeth,” meddai Jack. “Mae’r ystadegau am faint mwy tebygol yw hi i smygwyr gael trawiad ar y galon neu gancr wedi gwneud argraff arna’ i. Ac mi fyddwn wedi gallu defnyddio’r arian roeddwn i’n ei wario ar sigaréts, ar y pethau eraill rydw i eisiau eu gwneud.

“Fe wnes i benderfynu ei bod hi’n well imi roi’r gorau iddi rŵan gyda help gan rywun a oedd yn gwybod beth roedden nhw’n ei wneud.”

 

“Cymorth anhygoel bob dydd”

Rhoddodd Helpa Fi i Stopio, gwm cnoi  a phatsys nicotin i Jack a dangos iddo drwy ddefnyddio ap hawdd i’w ddeall, faint roedd wedi bod yn ei wario ar sigaréts – “ roedd yn gymorth anhygoel bob dydd.”

Mae Jack yn bwriadu gwario’r arian mae wedi’i arbed ar deithiau dringo ac mae’n breuddwydio am gyrraedd Gwersyll Sylfaen Everest.

“Mae wedi bod yn brofiad positif,” meddai. “Chefais i ddim cymaint o anawsterau ac roeddwn i wedi’i ddisgwyl. Roedd hi’n anodd weithiau, ond gyda chymorth gan Helpa Fi i Stopio, roedd gen i gynllun a oedd yn gweithio

“Bob tro roedden ni’n siarad, byddai Jo’n dweud ‘Ti wedi gwneud hyn a hyn o wythnosau rŵan’ neu ‘Mi fyddi di’n gweld gwahaniaeth yn dy lefelau ocsigen rŵan bod y carbon monocsid allan o dy system’. Neu byddai’n dweud ‘Da iawn, rwyt ti wedi gwneud yn iawn. Mi fedri di wneud hyn’

“Mae’r galwadau ffôn wedi bod yn help mawr. Rwyt ti’n mynd ar siwrne gyda dy gynghorydd. Fyddwn i ddim eisiau dweud celwydd wrth Jo. Mae hi wedi buddsoddi ei hamser a’i hymdrech ynof i a doeddwn i ddim am ei siomi.

“Un o’r pethau gorau ydy ei fod i gyd am ddim...Does dim rheswm i beidio â rhoi cynnig arni i weld sut aiff hi!”

 

“Ffordd o fyw hollol wahanol”

Mae Jack yn dweud ei fod wedi teimlo’n gyffyrddus yn defnyddio Helpa Fi i Stopio ac nad oedd yn teimlo o dan unrhyw bwysau.  Cafodd roi’r gorau i smygu ar amser a oedd yn gyfleus iddo.

“Mi fyddwn i’n dweud wrth smygwyr sydd eisiau rhoi’r gorau iddi am gysylltu â Helpa Fi i Stopio - dyma sydd wedi fy helpu i ddod drwyddi.

“Wnes i ddim am funud, feddwl y byddai rhoi’r gorau i smygu yn newid fy ffordd o fyw, ond mae o. Mae’r iechyd, y positifrwydd, yr arian a pheidio mynd allan i smygu pan fydd hi’n rhewi o oer.

“Fe wnes i dwyllo fy hun am flynyddoedd. Dydw i ddim am droi’n ôl, does dim pwynt. Dyna ni rŵan. Dal i symud ymlaen. Mi ddaw yn well ac yn haws.”