Neidio i'r prif gynnwy

Yfed llai o alcohol

Syniadau hunangymorth i leihau eich yfed

Mae yna lawer o ffyrdd syml y gallwch chi leihau faint rydych chi'n ei yfed.

 

Mwy o gymorth i yfed llai o alcohol

Os ydych chi'n bryderus ac yn meddwl bod angen mwy o gymorth arnoch chi i leihau faint o alcohol rydych chi'n ei yfed, gallwch gysylltu â DAN24/7 am gymorth a chyngor unrhyw bryd – ddydd a nos.

 

Mae ein Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yn darparu cymorth cyfrinachol, anfeirniadol, proffesiynol a hygyrch sy'n anelu at leihau'r niwed a achosir gan alcohol.

 

Mae ein gwasanaethau Iechyd Meddwl Fedra'i yn cynnig cymorth pwrpasol i unigolion sydd angen cymorth a chyngor ar faterion sy’n effeithio ar eu lles meddyliol, gan gynnwys tor-perthynas, galar, pryderon ariannol ac unigrwydd.

Mae hybiau cymunedol, cymorth gyda chyflogaeth, apiau ac amrywiaeth o adnoddau ar gael i gefnogi unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl cyffredin a materion cysylltiedig – gan gynnwys canllaw hunangymorth ‘Alcohol and You’.