Neidio i'r prif gynnwy

Tachwedd 2023

Clinig deintyddol cymunedol o'r radd flaenaf yn agor yn Ysbyty Bryn Beryl.

Agor Clinig Deintyddol Cymunedol newydd yn Ysbyty Bryn Beryl. Mae'r adeilad newydd yn cynnwys ystafelloedd triniaeth ddeintyddol mawr, ystafell ddihalogi ac ystafell glinigol ac offer arbenigol newydd fel cadeiriau addasadwy er mwyn galluogi pobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn i gael mynediad hwylus at ofal.

Mae'r clinig, sy'n wasanaeth cyfeirio'n unig, yn gartref i dîm deintyddol pwrpasol sy'n cynnwys nyrsys, therapydd, deintydd a chynorthwyydd gofal iechyd, sy'n darparu gofal deintyddol ar gyfer pobl na allant gael eu trin yn hawdd mewn practis deintyddol cyffredinol, fel cleifion sydd â chyflyrau iechyd penodol, anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl.