Er gwaethaf yr heriau y mae COVID-19 wedi'u creu, mae achosion o'r firws wedi ysbrydoli clinigwyr i ddatblygu prosiectau arloesol er mwyn eu helpu i gyfathrebu'n well rhwng ei gilydd a'u cleifion.
Mae'r gwaith ail ddatblygu i ddod ag ystod o wasanaethau iechyd o dan un to yn Ysbyty Rhuthun wedi dechrau.
Bu i’r staff yn Ysbyty Gwynedd glapio a chymeradwyo wrth i ddau o’u cydweithwyr gael eu rhyddhau o’r ysbyty’r mis hwn ar ôl trechu COVID-19.
Cafodd Ysbyty Glan Clwyd ei oleuo gyda lliwiau'r enfys ddoe i ddathlu ymdrechion staff y GIG i fynd i'r afael â COVID-19 ac i nodi 40 mlynedd ers agor yr ysbyty. Cafodd y safle ei oleuo am 9.44pm, hirddydd yr haf, i nodi pedwar degawd o ofal yn yr ysbyty ym Modelwyddan.
Anogir darpar dadau a thadau newydd sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl i estyn allan am gefnogaeth gan eu bydwraig, ymwelydd iechyd neu eu Meddyg Teulu.
Mae prawf newydd nad yw'n ymwthiol yn awr yn cael ei gynnig i gleifion gan eu Meddyg Teulu i'w gwblhau gartref, a all helpu i ddiystyru problemau difrifol gyda'r coluddyn yn effeithiol, megis canser.
Mae fferyllydd yng Ngogledd Cymru yn helpu rhieni sy'n addysgu plant gartref i gael mynediad at ddeunydd am atal haint, micro-organebau a defnydd o wrthfiotigau.
Mae pobl sydd ag anableddau dysgu a’u teuluoedd wedi canmol y gefnogaeth a dderbyniwyd gan staff y GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol i’r cymylau yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud COVID-19.
Mae gwasanaethau canser yn dal i fod ar gael yn ystod pandemig COVID-19 ac mae pobl sydd â symptomau canser posibl yn cael eu hannog i ofyn am gymorth a chyngor, meddai’r Gweinidog Iechyd heddiw.
Mae profion gwrthgyrff am COVID-19 wedi dechrau yng Ngogledd Cymru. Mae staff Gwyddorau Gwaed ar draws Gogledd Cymru wedi dechrau gwneud profion gwaed ar Staff y GIG a gweithwyr allweddol fel rhan o raglen genedlaethol i wella ein dealltwriaeth o’r firws.
Mae côr ar lein yn defnyddio iaith arwyddion a chân i helpu oedolion ag anableddau dysgu yng Nghonwy i gael hwyl a gwneud ffrindiau newydd yn ystod y cyfyngiadau symud COVID-19.
Mae’r sesiynau Côr Makaton Conwy wythnosol wedi’u canmol am leihau unigrwydd a helpu oedolion ag anableddau dysgu i gynyddu eu hyder a dysgu sgiliau newydd.
Gyda thristwch mawr y rhannwn y newyddion am farwolaeth Rizal Manalo, a oedd yn gweithio fel nyrs ar Ward 5 Ysbyty Glan Clwyd. Bu farw Rizal, a elwid yn Zaldy gan ei ffrindiau a chydweithwyr, ddydd Sul ar ôl cael ei drin yn uned gofal critigol yr ysbyty dros yr wythnosau diwethaf.
Mae cleifion sy'n dueddol o gael clotiau gwaed yn awr yn gallu monitro ei hunain gartref yn ystod y pandemig COVID-19 gyda pheiriant profi newydd.
Gwnaeth staff ar Ward Orthopedig Ysbyty Maelor Wrecsam bob ymdrech i sicrhau bod un o’u cleifion yn cael dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed mewn steil.
Mae miloedd o bunnoedd wedi helpu tuag at dalu am offer newydd yn Uned y Newydd-anedig, Ysbyty Gwynedd, gan deulu bachgen a gafodd driniaeth i achub ei fywyd, fel baban newydd-anedig.
Mae sganiau’r galon sy’n achub bywydau yn parhau i gael eu cynnal yn y gymuned yn ystod yr achosion o COVID-19 diolch i arbenigwyr cardiaidd ymroddedig.
Mae dechrau mis Mehefin yn dathlu dechrau Wythnos y Gwirfoddolwyr, dathliad blynyddol o’r cyfraniad y mae miliynau o bobl yn ei wneud ar draws y wlad drwy wirfoddoli.