Cyfeiriad: Ysbyty Glan Clwyd, Y Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 5UJ
Ymholiadau ffôn cyffredinol: 01745 583 910
Mae gwybodaeth am ein gwasanaethau ysbytai ar gael yma.
Mae gwybodaeth a rhifau cyswllt ar gyfer wardiau Ysbyty Glan Clwyd ar gael yma.
Mae gwybodaeth am ymweld â'n safleoedd ysbyty ar gael yma.
Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.
Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl os na allwch ddod i'ch apwyntiad ysbyty.
Cofrestrwch i wasanaeth atgoffa am apwyntiadau ysbyty i'ch helpu chi fel claf i gofio manylion eich apwyntiad.
Mae'r rhan fwyaf o gleifion yn dychwelyd adref yn syth ar ôl derbyn gofal yn un o'n hysbytai. Caiff hyn ei drafod o fewn 24 awr i'ch derbyn i'r ysbyty, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Gyrru: Gadewch yr A55 ar Gyffordd 25 a dilynwch arwyddion y cylchfannau ac ymunwch â Ffordd Rhuddlan. Parhewch ar y ffordd am oddeutu ½ milltir a throwch am dir yr ysbyty ar y gylchfan fach. Mae arwyddion am safleoedd parcio ymwelwyr a chleifion wedi eu lleoli ar ochr flaen a gogleddol y safle.
Trên: Mae’r ysbyty wedi’i leoli oddeutu 4 milltir o orsaf drenau’r Rhyl. Am wybodaeth ar deithio yno ar y trên, ewch i: Traveline Cymru
Bws: Mae gwasanaeth bws dyddiol a rheolaidd o'r Rhyl a nifer o drefi lleol eraill yn uniongyrchol i safle’r ysbyty. Am fwy o wybodaeth, ewch i: Traveline Cymru