Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil a Datblygu

Croeso i’n Hadran Ymchwil a Datblygu.

Mae ymchwil yn rhan o’n gwaith bob dydd er mwyn helpu i wella iechyd a lles pobl Gogledd Cymru.

Rydym yn edrych ar ffyrdd newydd o atal, rheoli a thrin clefydau, yn ogystal â gwella ein gwybodaeth a thriniaethau yn y GIG gyda’r nod o wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl.

Mae ein tîm Ymchwil a Datblygu yn cael ei ariannu’n rhannol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru i gefnogi ystod yr ymchwil, o holiaduron syml i dreialon clinigol hynod gymhleth sy’n profi cyffuriau, triniaethau a therapïau newydd. Mae’n sbardun allweddol wrth ddarparu gwell opsiynau atal, diagnosis a gofal ar sail tystiolaeth i gleifion.