Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gall COVID-19 effeithio ar fy ngallu i gyfathrebu a llyncu?

Mae COVID-19 yn salwch newydd a all effeithio eich ysgyfaint a'ch llwybrau anadlu.

Bydd gan y mwyafrif o bobl symptomau ysgafn o COVID-19 ac yn gwella'n gyflym. Mae rhai pobl yn cael symptomau mwy difrifol o COVID-19 ac angen triniaeth ysbyty.

Efallai y bydd ychydig o bobl yn sylwi ar newidiadau yn eu gallu i gyfathrebu neu lyncu ar ôl COVID-19.

Cyfathrebu a COVID-19:
Mae teimlo'n flinedig yn golygu bod siarad ac ymwneud ag eraill efallai'n cymryd mwy o ymdrech na'r arfer.

Efallai y bydd ychydig o bobl yn profi newidiadau i'w cof, meddwl a'u gallu canolbwyntio o ganlyniad i'r firws. Adnabyddir hyn fel Anhwylder Cyfathrebu Gwybyddol. Efallai y bydd yn fwy anodd i ganolbwyntio ar y sgwrs, dod o hyd i eiriau neu gofio'r hyn yr ydych eisiau ei ddweud. Efallai y bydd rhai pobl yn dweud pethau sy'n amhriodol yn gymdeithasol, heb sylwi.

Os yw'r unigolyn wedi ei fewndiwbio (yn dilyn triniaeth mewn uned gofal dwys), efallai y bydd yn sylwi ar newidiadau i ansawdd ei lais. Gall ei lais swnio'n anadlol, yn grug neu'n dawelach na'r arfer.

Gall anawsterau gyda chyfathrebu wella wrth i adferiad cyffredinol unigolyn wella. Os oes gennych bryder am eich cyfathrebu, cysylltwch â'ch tîm Therapi Iaith a Lleferydd.

Llyncu a COVID-19:
Efallai y bydd gennych anawsterau gyda bwyta, yfed a llyncu. Gall gwendid cyhyrau a blinder ar ôl COVID-19 olygu ei bod yn anoddach llyncu, sy'n golygu efallai na fyddwn yn mwynhau bwyd cymaint, sydd wedyn yn arwain at beidio â bwyta nac yfed digon.

Efallai y bydd gennych gyngor penodol a roddwyd i chi gan Therapydd Iaith a Lleferydd, a dylech barhau i'w ddilyn. Os oes gennych unrhyw bryder am eich llwnc, cysylltwch â'ch tîm Therapi Iaith a Lleferydd.

Am fwy o wybodaeth am COVID-19 ac aderiad, ewch i wefan y GIG.