Os ydych yn poeni fod gennych haint wedi'i drosglwyddo'n rhywiol (STI), trefnwch brawf cyn gynted ag y gallwch drwy gysylltu â'ch clinig lleol, neu gael mynediad at brawf ar lein drwy Iechyd Rhywiol Cymru.
Mae gennym glinigau mewn ysbytai ac yn y gymuned ar draws Gogledd Cymru. Am fwy o fanylion am y clinigau a'u horiau agor, dewiswch yr ardal yr hoffech gael eich gweld:
Archebu pecyn prawf cartref gan Iechyd Rhywiol Cymru, neu casglwch un o un o’r lleoliadau cymunedol niferus ar draws Gogledd Cymru.
Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn cael symptomau STI. Gall STI gwahanol roi gwahanol symptomau, gan gynnwys rhedlif anghyffredin o'r wain, pidyn, anws, poen neu deimlad anghyfforddus wrth basio dŵr, lympiau o amgylch y rhan genhedlol neu'r anws, gwaedu anghyffredin o'r wain, poen yn yr abdomen / ceilliau, briwiau yn y rhan genhedlol, neu gosi yn y rhan genhedlol.
Gall rhai STI effeithio eich iechyd hir dymor. Os ydych yn actif yn rhywiol ac yn enwedig os ydych wedi newid eich partner rhywiol yn ddiweddar, rydym yn argymell profion iechyd rhyw reolaidd.
Mae hysbysu partner yn broses cyfrinachol ble mae eich partner rhyw yn cael gwybod eu bod wedi bod mewn cyswllt â haint wedi'i drosglwyddo'n rhywiol (STI). Gall eich partner gael y cyngor meddygol, profion ac unrhyw driniaeth all fod ei angen. Mae hysbysu partner yn benodol bwysig oherwydd nid yw llawer o bobl sydd ag STI yn sylwi fod rhywbeth o'i le. Mae hysbysu partner yn ffordd bwysig o helpu i atal STI rhag cael eu trosglwyddo o un unigolyn i’r llall, ac fe all eich stopio rhag cael yr haint eto.
Am fwy o wybodaeth ewch ar y Guide to Partner Notification ar wefan BASHH (Saesneg yn unig).
Chlamydia 
	Achosir chlamydia gan facteriwm a elwir yn chlamydia tracomatis. Gall chlamydia heintio’r wrethra, y groth, ceg y groth, tiwbiau ffalopio, ceilliau, rectwm, gwddf a'r llygaid.
Gonorea
	Gall gonorea heintio'r  wrethra, y groth, ceg y groth, tiwbiau ffalopio, ofarïau, ceilliau, rectwm, gwddf ac weithiau'r llygaid. Mae dynion fel arfer yn sylwi ar redlif o flaen y pidyn ond nid yw'r rhan fwyaf o ferched yn cael unrhyw symptomau.
Dafaden wenerol 
	Mae dafaden wenerol yn cael eu hachosi gan papilomafirws dynol neu HPB a dyma'r STI fwyaf cyffredin a achosir gan firws.
Herpes
	Achosir herpes gwenerol drwy ddau firws a elwir yn herpes cymhleth math 1 a 2. Mae'r firysau'n debyg iawn ac fe all y ddau achosi briwiau ar y rhan genhedlol neu'r wyneb. Gellir gweld manylion am herpes gwenerol mewn beichiogrwydd yma.
Syffilis
	Achosir syffilis gan facteriwm a elwir yn Treponema paladiwm. Fe all heintio unrhyw ran o'r corff ac fel arfer mae'n ymddangos fel briwiau ar y rhan genhedlol neu yn y geg, brech ar y croen a chwydd ar y chwarren lymff. Gellir cael manylion am syffilis mewn beichiogrwydd gan Iechyd Cohoeddus Cymru yma. 
Wrethris nad yw'n gonococal (non-gonoccoal) 
	NGU yw'r enw a roddir ar lid ar wrethra dyn pan nad gonorea yw'r achos. Gall dynion  sylwi ar redlif o flaen y pidyn, poen wrth basio dŵr neu gosfa ar flaen y pidyn neu y tu fewn i'r wrethra.
Clefyd Llidus y Pelfis (Pelvic Inflammatory Disease) 
	PID yw'r enw a roddir i lid ar organau atgenhedlu merched: y groth, tiwbiau ffalopio, ofariau a'r meinwe gyfagos. Fel arfer fe'i hachosir gan haint bacteriol sy'n lledaenu o geg y groth.
Epididimo-orchitis
	Epididimo-orchitis yw cyflwr sy'n effeithio dynion sydd â symptomau fel poen a chwydd y tu mewn i'r sgrotwm.
Mycoplasma 
	Achosir mycoplasma gan facteriwm a elwir yn Mycoplasma genitaliwm. Nid oes gan lawer o ddynion a merched sydd â mycoplasma unrhyw symptomau cenhedlol pan maent wedi'u heintio.
Trichomoniasis Vaginalis
	Achosir tricomoniasis faginalis gan germau bach sy'n debyg i facteria ac fe all heintio'r wain, wrethra ac o dan y blaengroen. 
Hepatitis B
	Hepatitis B yw haint ar yr iau a achosir gan firws sy'n lledaenu drwy'r gwaed a hylifau'r corff.
Hepatitis C
	Hepatitis C yw firws a all heintio'r iau ac sy'n lledaenu drwy gyswllt gyda gwaed unigolyn sydd wedi'i heintio.
HIV
	HIV yw firws sy'n niweidio'r celloedd yn eich system imiwnedd ac yn gwanhau eich gallu i ymladd heintiau a chlefydau bob dydd.
Lymphogranuloma Venereum
	Achosir Lymffogranwloma fenerum, neu LGV gan facteriwm o'r teulu chlamydia. Gall LGV heintio’r rhannau cenhedlol, anws, rectwm, gwddf neu'r chwarren lymff yn y forddwyd. Gwybodaeth gan Terence Higgins Trust Cymru (Saesneg yn unig).
Molwscwm 
	Molwscwm contagiosum yw haint firaol diniwed o'r croen sy'n achosi lympiau neu doriadau bach ar haenau uchaf y croen.
Llau pwbig 
	Llau pwbig yw pryfaid bach sy'n byw ar wallt corff dynol brau. Gall symptomau gynnwys cosi, llid a phoen a achosir drwy grafu, powdr du yn eich dillad isaf a smotiau glas neu smotiau bach o waed ar eich cluniau neu ran isaf eich abdomen.
Clefyd Crafu 
	Clefyd crafu yw llid ar y croen a achosir gan widdonyn a elwir yn “sarcopte scabiei”. Fel arfer, mae symptomau'n cynnwys brech goch sy'n cosi ar y croen.
Faginosis Bacteriol 
	Faginosis Bacteriol yw'r achos fwyaf cyffredin o redlif anghyffredin o'r wain mewn merched o oed magu plant. 
Balanitis
	Balantis yw llid ar y croen ar flaen y pidyn a all effeithio dynion a bechgyn.
Candidiasis
	Mae candidiasis, a elwir hefyd yn llindag (thrush) yn haint cyffredin sy'n effeithio dynion a merched. Mae llindag ailadroddus yn cael ei ddiffinio fel pwl o bedwar llindag neu fwy mewn blwyddyn.
Llid y Bledren
	Llid y bledren yw llid ar y bledren, a achosir fel arfer gan haint yn y bledren.
Mae rhagor o wybodaeth am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ar gael ar wefan GIG 111 Cymru.