Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Glan Clwyd

Mae gan ein hadeilad newydd, sy'n eang ac o'r radd flaenaf, bum crud gofal dwys, pum crud dibyniaeth uchel a naw crud gofal arbennig.  Rydym yn cynnig gofal dan arweiniad meddygon ymgynghorol ar gyfer babanod sâl a chynamserol sydd wedi mynd dros y cyfnod cario o 26 wythnos o Ogledd Cymru a thu hwnt.  Mae gennym wasanaeth cludo 12 awr ar gyfer y newydd-anedig hefyd.

Rydym wedi'n lleoli yn ardal oren yr ysbyty ac rydym wrth ymyl yr ystafelloedd esgor.

Mae gennym ddwy ystafell wely i gleifion eu defnyddio ar yr uned a llety arall yn ymyl ward y plant, sydd gerllaw.  Mae cyfleusterau i rieni a brodyr a chwiorydd gan gynnwys man chwarae a chegin ar yr uned.

Mae gennym raglen o weithgareddau gofal integredig i deuluoedd ac rydym yn gweithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd medrus iawn fel ffisiotherapyddion, therapyddion iaith a lleferydd a deietegwyr.

Manylion Cyswllt

Ysbyty Glan Clwyd Hospital
Ffordd Rhuddlan
Bodelwyddan
Rhyl LL18 5UJ

Rhif ffôn yr uned yw 01745 448788 est. 2830