Mae gennym ystafelloedd pwrpasol yn ein hysbytai, lle gallwch dreulio amser gwerthfawr gyda’ch babi.
Mae ein switiau profedigaeth yn ystafelloedd llonydd, cyfforddus a phreifat i chi a’ch teulu dreulio amser yn cwrdd â’ch babi ac yn creu atgofion.
Rydym yn defnyddio offer megis yr Abi Cold Cot a blancedi Cuddle Cot i gadw eich babi yn glaear, fel y gallwch chi a’ch babi aros gyda’ch gilydd yn ein swît profedigaeth. Mae’r rhain wedi eu rhoi’n garedig gan deuluoedd er cof am eu babanod a gollwyd.
Mae gennym gamera ac argraffydd ar bob uned i ganiatáu i deuluoedd dynnu ffotograffau pwysig ar gyfer creu atgofion. Mae gennym lawer o ddillad a gynau angel wedi eu cyfrannu gan elusennau lleol, yn cynnwys gwisgoedd wedi eu gwau, yn ogystal â gynau hardd wedi eu creu o wisgoedd priodas a gyfrannwyd, ar gael i chi eu defnyddio os ydych yn dymuno gwneud hynny.