Mwy o ddewis, rhyddid a rheolaeth ynghylch eich gofal
Mae newid yn y ddeddfwriaeth a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2026, bellach yn caniatáu i bobl sy'n gymwys ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG (GIP) dderbyn eu gofal trwy Daliadau Uniongyrchol. Mae hyn yn golygu y gall unigolion cymwys dderbyn cyllid yn uniongyrchol i drefnu a rheoli eu gofal eu hunain, yn hytrach na derbyn gwasanaethau a gomisiynir gan y GIG.
Beth yw Taliadau Uniongyrchol?
Mae Taliadau Uniongyrchol yn fath o gyllideb bersonol. Rhoddir cyllid yn uniongyrchol i unigolion cymwys fel y gallant ddewis a thalu am eu gwasanaethau gofal a chymorth eu hunain, yn hytrach na bod y bwrdd iechyd yn trefnu gwasanaethau ar eu rhan.
Pwy sy'n Gymwys?
Pa Ofal y Gellir ei Ariannu?
Bydd y math o ofal a ariennir yn seiliedig ar anghenion iechyd sydd wedi cael eu hasesu a'u hamlinellu yng nghynllun gofal yr unigolyn.
Camau Nesaf
Mae Tîm GIP yn gweithio'n gyflym i ddatblygu proses dros dro. Gan fod hon yn ffordd newydd o ddarparu GIP, mae strwythurau a mesurau diogelwch newydd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod y system yn ddiogel, yn gynaliadwy, a bod cynorthwywyr personol wedi'u hyfforddi a'u gwirio'n briodol.
Os ydych chi'n cael GIP ar hyn o bryd ac yn credu y gallai Taliadau Uniongyrchol fod yn addas i chi, cysylltwch ag:
Mae manylion cyswllt lleol ar wefan gyhoeddus GIP BIPBC:
Gofal Iechyd Parhaus y GIG - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr