Neidio i'r prif gynnwy

Pesari a roddir yn y fagina neu dabled sy'n cynnwys Prostaglandin (Propess/ Prostin)

Gellir ysgogi'r cyfangiadau trwy gynnal archwiliad mewnol a rhoi pesari neu dabled yn y fagina. Bydd hyn yn digwydd yn yr uned mamolaeth a chaiff eich baban ei fonitro cyn rhoi'r pesari/tabled yn y fagina ac yn syth ar ôl gwneud hynny. Mae'r rhain yn gyffuriau sy'n dynwared yr hormonau naturiol sy'n gysylltiedig â phoen wrth esgor.