Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi hormonau trwy ddiferwr

Rhoddir hormonau trwy ddiferwr os na fyddwch yn cychwyn esgor ymhen 24 awr ar ôl i doriad yn eich dyfroedd ddigwydd yn naturiol neu ar ôl torri eich dyfroedd fel rhan o'r broses o brysuro'r esgor. Gosodir diferwr mewn gwythïen yn eich braich, a chychwynnir rhoi'r trwyth hormonau yn araf a chaiff ei gynyddu'n raddol nes byddwch chi'n profi cyfangiadau cyson. Caiff cyfradd curiad calon eich baban ei fonitro'n barhaus tra byddwch chi'n cael y trwyth hormonau i sicrhau bod popeth yn iawn.