Neidio i'r prif gynnwy

Cathetr balŵn

Yn y broses hon, rhoddir cathetr (tiwb meddal sydd ddim yn cynnwys latecs) yng ngheg eich croth. Ceir balŵn ger blaen y cathetr a phan fydd y cathetr yn y lle iawn, llenwir y balŵn â dŵr di-haint, i bwyso'n ysgafn ar geg eich croth. Dylai'r pwysau feddalu ceg eich croth a'i hagor yn ddigonol i gychwyn yr esgor neu i allu torri'r dyfroedd o amgylch eich baban.