Neidio i'r prif gynnwy

Dechrau Arni

Bwriad y bwydydd cyntaf yw helpu eich babi i ddarganfod a datblygu awydd am fwydydd a blasau newydd. Bydd pob babi yn wahanol; bydd rhai yn mwynhau bwyd o'r dechrau ac yn helpu eu hunain i fwyd yn syth.

  • Efallai y bydd rhai yn gallu bwyta sawl llwyaid o fwyd newydd yn syth.
  • Bydd rhai yn cymryd mwy o amser i ddod i arfer â blasau newydd.
  • Cynigiwch ychydig bach o fwyd cyn rhoi llaeth wrth fwydo eich babi.
  • Gellir cynyddu’r bwyd a roddir yn raddol yn ystod yr wythnosau cyntaf.

Mae’n bwysig peidio â phoeni am faint o fwyd sy’n cael ei fwyta yn y cyfnod yma oherwydd:

  • Bydd llanast
  • Bydd faint o fwyd mae eich plentyn yn ei fwyta o ddydd i ddydd yn amrywio ac felly hefyd yr archwaeth am wahanol fwydydd
  • Byddwch yn hyderus fod eich babi yn bwyta’r hyn sydd ei angen arno, a cheisiwch sefydlu patrwm prydau rheolaidd.
  • Rhowch brydau neu fyrbrydau yn gyson, bob 2 - 3 awr erbyn i'ch babi gyrraedd 12 mis oed.

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ar fwydo eich babi ar gael ar wefan y Gymdeithas Dieteteg Brydeinig – The British Dietetic Association – Cychwyn bwydo’ch babi| British Dietetic Association (BDA).

Tua 6 mis oed

Nod y bwydydd cyntaf yw helpu babanod i archwilio blasau a gweadau newydd. Mae pob babi yn wahanol. Bydd nifer o fabanod yn gallu dygymod ag amrywiaeth o fwydydd sydd wedi'u gwneud yn biwrî neu’n stwnsh yn ogystal â dal bwydydd bys a bawd meddal eu hunain. Efallai y bydd angen ychydig mwy o amser ar rai babanod i ddod i arfer â gweadau newydd a bydd yn well ganddyn nhw fwydydd piwrî ar lwy yn unig i ddechrau

Gall bwydydd cyntaf babanod gynnwys amrywiaeth o fwydydd o'r gwahanol grwpiau bwyd. Gellir cymysgu llaeth y fron, llaeth fformiwla babanod a/neu laeth buwch llawn braster â bwydydd cyntaf i sicrhau’r trwch delfrydol. Mae'n ddefnyddiol cynnig blasau llysiau nad ydyn nhw’n orfelys fel brocoli, blodfresych, ffa gwyrdd, madarch a sbigoglys gan fod tystiolaeth yn awgrymu y gallai hyn helpu babanod i fod yn fwy parod i fwyta llysiau maes o law. Mae rhai bwydydd y dylech osgoi eu rhoi i'ch babi, am ragor o wybodaeth, ewch i:

Tua 7 - 9 mis

Erbyn hyn, gall eich babi symud ymlaen i gael tri phryd o fwyd y dydd (ynghyd â'i brydau arferol o laeth y fron neu laeth fformiwla). Gallwch gynnig bwydydd wedi stwnshio a lympiau meddal. Bydd cynnig bwydydd bys a bawd fel rhan o bob pryd yn annog babanod i fwydo eu hunain a datblygu sgiliau cnoi, annibyniaeth a chydlyniad. Wrth i'ch babi ddod i arfer â chymryd bwydydd solet, gellir cynnig amrywiaeth eang o'r pedwar prif grŵp bwyd. Am ragor o wybodaeth am y gwahanol grwpiau bwyd:

Tua 10 - 12 mis

Erbyn hyn, dylai eich babi dygymod ag amrywiaeth o fwydydd sydd wedi'u malu a bwydydd sydd wedi’u torri'n fân, a gellir cynnig tri phryd y dydd iddo, ynghyd â phrydau llaeth y fron neu laeth fformiwla arferol.

 

Cofiwch fod pob babi yn wahanol, a bydd pob un yn symud ymlaen trwy'r camau uchod yn eu hamser eu hunain. Dylai symud ymlaen trwy'r camau ddigwydd yn ôl parodrwydd eich babi chi eich hun, nid oherwydd eu hoedran yn benodol.

Awgrymiadau Cyffredinol

  • Peidiwch ychwanegu halen, siwgr na melysyddion artiffisial at unrhyw fwyd babi
  • Mae mêl yn anaddas ar gyfer babanod o dan 1 oed gan ei fod yn cynnwys bacteria a allai achosi botwlaeth (math o wenwyn bwyd)
  • Cynigiwch fwyd pan fydd y babi yn fwyaf tebygol o fod eisiau bwyd
  • Cynigiwch ffrwythau a llysiau lliwgar fydd yn denu sylw eich babi
  • Rhowch fwydydd y maen nhw wedi'u bwyta o'r blaen gydag unrhyw beth sy'n cael ei gyflwyno am y tro cyntaf
  • Bwytewch gyda'ch gilydd, mae hyn yn gwneud amseroedd bwyta yn fwy pleserus a chymdeithasol
  • Gadewch i’r babi roi cynnig ar fwydo ei hunan, efallai y bydd yn bwyta mwy os oes ganddo fwy o reolaeth
  • Ceisiwch beidio cynhyrfu, os yw rhiant yn bryderus ac yn llawn tensiwn, bydd y babi yn aml yn sylwi ar hyn
  • Ceisiwch beidio â phoeni os yw mwy o fwyd yn cael ei fwyta ar rai dyddiau na’i gilydd, dilynwch eich babi a'i archwaeth am fwyd wrth iddo dyfu a datblygu yn y flwyddyn gyntaf
  • Bydd angen cynnig bwydydd anghyfarwydd nifer o weithiau (8-10 gwaith) er mwyn annog y babi i flasu a derbyn blasau newydd
  • Argymhellir y dylid rhoi atchwanegiad dyddiol sy'n cynnwys 8.5 microgram i 10 microgram o fitamin D i fabanod sy'n cael eu bwydo ar y fron yn gyfan gwbl neu'n rhannol o'u geni hyd at flwydd oed. Nid oes angen atchwanegiad fitamin D ar fabanod sy'n cael eu bwydo ar fformiwla oni bai eu bod yn derbyn llai na 500ml (tua pheint) o fformiwla y dydd

 

Cyflwyno Bwydydd a allai sbarduno Alergedd

Pan fydd eich babi tua 6 mis oed ac yn dechrau bwyta bwydydd solet, argymhellir cyflwyno bwydydd a allai sbarduno adwaith alergaidd yn raddol. Cynigiwch un ar y tro mewn meintiau bach iawn fel y gallwch chi sylwi'n hawdd ar unrhyw arwyddion bod y babi yn cael adwaith i’r bwyd.

Os yw eich babi eisoes wedi cael diagnosis o alergedd bwyd neu ecsema, neu os oes hanes teuluol o alergeddau, ecsema, asthma, neu dwymyn y gwair, efallai y bydd angen i chi fod yn fwy gofalus wrth ddechrau cyflwyno bwydydd solet. Gall eich meddyg teulu neu ymwelydd iechyd gynnig cyngor a chymorth.

Mae bwydydd a all achosi adwaith alergaidd gynnwys:

  • Llaeth buwch
  • Wyau (peidiwch â rhoi wyau amrwd neu wyau wedi'u coginio'n ysgafn oni bai bod ganddyn nhw'r stamp llew coch arnyn nhw)
  • Bwydydd sy'n cynnwys glwten fel gwenith, haidd a rhyg
  • Cnau a chnau daear (dim ond os ydyn nhw wedi'u malu'n fân neu ar ffurf menyn cnau llyfn dylid cyflwyno’r rhain)
  • Ffa, corbys a phys
  • Hadau, yn enwedig sesame (oni bai eu bod wedi'u malu'n fân)
  • Soia
  • Pysgod cregyn (peidiwch byth â'u gweini'n amrwd neu os ydyn nhw wedi'u coginio'n ysgafn)
  • Pysgod
  • Seleri
  • Mwstard
  • Swlffwr deuocsid (ceir hwn weithiau mewn ffrwythau sych a suddoedd ffrwythau)

Gellir cyflwyno'r bwydydd hyn o tua 6 mis oed fel rhan o ddeiet arferol eich babi. Os yw'ch babi yn eu goddef yn dda, mae'n ddefnyddiol parhau i'w cynnig yn rheolaidd i leihau'r tebygolrwydd y bydd yn datblygu alergedd. Mae ymchwil yn awgrymu y gall aros y tu hwnt i 6 i 12 mis cyn cyflwyno cnau daear neu wyau ieir gynyddu'r tebygolrwydd y bydd alergedd yn datblygu.

Mae llawer o blant yn tyfu allan o alergeddau i fwydydd fel llaeth neu wyau maes o law, er y gall rhai alergeddau barhau am y tymor hir. Os yw eich plentyn wedi derbyn diagnosis o alergedd bwyd, gwiriwch labeli cynhwysion yn ofalus bob amser ac osgowch unrhyw fwydydd a allai gynnwys yr alergen. Am ragor o wybodaeth, ewch i:  Food allergies in babies and young children - NHS