Mae mwy i fwydo babi na'r trosglwyddiad syml o laeth a chalorïau. Mae bwydo babi yn rhan o berthynas gariadus newydd sbon sy'n dechrau cyn i'r babi gael ei eni hyd yn oed.
Mae llaeth mam yn amddiffyn ei babi rhag:
Mae bwydo ar y fron yn lleihau risg mam o:
Cost - Mae fformiwla babanod yn ddrud - hyd at tua £1,200 y flwyddyn yn dibynnu ar y brand. Beth allech chi ei brynu yn lle?
“Trafferthus” - Mae defnyddio fformiwla am 1 flwyddyn yn golygu gwneud mwy na 2,000 o boteli, sef tua 200 awr o waith yn y gegin.
Mae bodau dynol yn famaliaid - Mae dros 4,500 o rywogaethau o famaliaid ar y Ddaear. Mae pob rhywogaeth yn gwneud llaeth arbennig ar gyfer eu babanod. Llaeth dynol ar gyfer babanod dynol!
Oeddech chi'n gwybod bod bwydo ar y fron yn defnyddio tua 500 o galorïau’r dydd ar gyfartaledd? I losgi’r un nifer o galorïau bydd angen i chi nofio 30 lap neu feicio am fwy nag awr bob dydd.
Gwyliwch y fideo pum munud hwn i gael rhagor o wybodaeth am sut mae llaetha yn gweithio.
Os yw popeth yn iawn mae'n syniad da aros nes bod eich cyfnod llaetha wedi setlo ychydig cyn i chi ddechrau tynnu llaeth. I lawer o famau bydd hyn yn cymryd tua 3-4 wythnos.
Mae’n werth ystyried y gallai cyflwyno teth neu ddymi yn gynnar ei gwneud hi’n anoddach i’r babi ymlynu’n dda wrth y fron, gall ymyrryd â “bwydo dan arweiniad babi” a gallai hyn leihau eich cyflenwad llaeth.
Ar ôl yr enedigaeth bydd bydwraig yn eich helpu i ddysgu sut i dynnu llaeth â llaw. Gwyliwch y fideo UNICEF i ddysgu mwy am dynnu llaeth â llaw.
Y dyddiau hyn mae llawer o ferched beichiog yn dechrau casglu cynlaeth cyn i'w babi gyrraedd.
Mae rhagor o wybodaeth am dynnu llaeth o’r fron cyn i’ch babi gyrraedd ar gael ar wefan Cymdeithas Mamau sy’n Bwydo ar y Fron.
Gofynnwch i fydwraig am arweiniad ar dynnu llaeth â llaw cyn geni (o tua 36 wythnos ymlaen) ac ystyriwch ymuno â'n grwpiau Facebook “Breastfeeding Friends” caeedig.