Mae mamau newydd angen cefnogaeth, sicrwydd a rhywun i wrando arnynt.
Gofalwch am y fam a'r babi newydd, cefnogwch y fam trwy wneud pethau ymarferol fel y gall ganolbwyntio ar y babi.
- Byddwch yn barod i wrando a byddwch yn gefnogol os yw'r fam newydd yn teimlo'n emosiynol ac fel bod pethau'n mynd yn drech na hi
- Cyfyngu ar ymwelwyr - gwnewch yn siŵr nad yw mam newydd yn cael ei llethu
- Help gyda gofal babi - newid cewynnau, rhoi bath i'r babi a mwy.
- Glanhewch, coginiwch a golchwch y dillad
- Gwnewch yn siŵr bod y fam newydd yn cael llawer o orffwys
- Gafaelwch a rhowch fwythau i'r babi pan fydd angen i'r fam orffwys
- Anogwch y fam newydd drwy ddweud wrthi ei bod yn gwneud yn wych!
Helpwch y fam i fod yn gyfforddus cyn dechrau bwydo, dewch â diodydd a byrbrydau iddi a gwnewch yn siŵr bod ganddi wydraid o ddŵr wrth law, gall bwydo ar y fron fod yn waith sychedig!