Neidio i'r prif gynnwy

Gostwng eich cymeriant alcohol ffolder Acordion

24/10/22
Yfwch ddigon o ddŵr

Mae yfed digon o ddŵr yn gallu eich helpu i osgoi rhai o'r effeithiau niweidiol a rhai o’r risgiau a ddaw o yfed gormod o alcohol.

Mae'n syniad da yfed gwydraid o ddŵr cyn dechrau yfed alcohol a rhwng pob diod alcoholig.

24/10/22
Yfwch fesurau llai

Ar y dyddiau pan fyddwch chi'n yfed alcohol, ewch am fesurau llai.

Fe allech chi gyfnewid gwydraid mawr o win am wydr llai, peint o gwrw am botel neu hanner, neu fesur dwbl o wirodydd am un sengl.

Gallwch hefyd dorri ar fesurau trwy ddewis diodydd nad ydynt mor gryf.

Bydd cyfnewid gwinoedd neu gwrw cryfach am rai â chyfaint is o alcohol yn eich helpu i leihau faint rydych chi'n ei yfed. Chwiliwch am yr ABV (mewn %) sydd ar y pecyn.

24/10/22
Cynllunio a gosod cyllideb

Cyn i chi ddechrau, gosodwch derfyn ar faint y byddwch chi'n ei yfed neu faint o'r gloch y byddwch chi'n rhoi'r gorau iddi. Weithiau mae'n haws cadw at eich cynlluniau os ydych chi wedi taro bargen â'ch hun cyn dechrau.

Neu, os ydych chi'n mynd allan, ewch â swm penodol o arian i’w wario ar alcohol a cheisiwch osgoi bod yn rhan o rowndiau mawr.

24/10/22
Rhoi gwybod i ffrindiau a theulu

Pan fyddwch chi'n penderfynu yfed llai, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i'ch ffrindiau a'ch teulu.

Os yw'r bobl sy'n poeni amdanoch chi'n gwybod eich bod yn ceisio yfed llai, byddant yn gallu eich cefnogi.

24/10/22
Newidiwch eich arferion

Os ydych chi fel arfer yn yfed wrth gymdeithasu, beth am gwrdd â'ch ffrindiau neu'ch teulu mewn mannau gwahanol neu ar amseroedd gwahanol?

Gall gwneud rhywbeth egnïol fel mynd am dro helpu i leihau straen, gwneud i chi deimlo'n well a gwella'ch iechyd.

Mae cael hwyl gyda ffrind dros baned yn llawer iachach na mynd i dafarn – ac ni fydd gennych chi ben mawr y bore canlynol.

24/10/22
Un dydd ar y tro

Ceisiwch gynyddu nifer y dyddiau pan na fyddwch chi'n yfed. Mae tri neu bedwar yn ddelfrydol.

Gorau po fwyaf o ddyddiau di-alcohol y byddwch chi’n eu cael er mwyn rhoi seibiant i'ch corff rhag y tocsinau niweidiol sydd mewn alcohol. Gall hyn eich helpu i gysgu'n well, rhoi hwb i'ch hwyliau a lleihau'ch risg o salwch hefyd.

Neu, os ydych chi'n yfed, ceisiwch dorri'n ôl ychydig ar faint y byddwch chi'n ei yfed bob dydd.

Mae pob diod rydych yn ei hyfed yn cynnwys calorïau gwag – felly drwy yfed llai, gallwch golli pwysau fel rhan o ddiet iach.