Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth, Pryderon a Chwynion: Â phwy i gysylltu

PALS: Os yw'n bwysig i chi, mae'n bwysig i ni

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu'r gofal a'r driniaeth gorau posibl ar gyfer pobl ar draws Gogledd Cymru. Rydym yn deall y gallai pethau fynd yn groes i'r disgwyl ar adegau, a phan fydd hyn yn digwydd, rydym am sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'ch pryderon yn brydlon ac yn briodol, gan roi'r cyfle i ni unioni pethau. 

Gan ddibynnu ar eich sefyllfa chi, efallai y bydd angen cymorth ac arweiniad arnoch chi naill ai gan ein Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS) neu ein Gwasanaeth Cwynion. Isod mae gwybodaeth ac arweiniad ar y gwasanaethau hynny a mwy, i'ch helpu i benderfynu ar y dull gorau o fynd i'r afael â'r sefyllfa ac â phwy i gysylltu: