Diben Fforwm Partneriaeth Leol (LPF) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ydy:
	- Sefydlu deialog reolaidd a ffurfiol rhwng Swyddogion Gweithredol y Bwrdd a sefydliadau staff ar faterion sy'n ymwneud â'r gweithlu a gwasanaethau iechyd.
 
	- Galluogi cyflogwyr a sefydliadau staff i sôn am faterion sy'n effeithio ar y gweithlu.
 
	- Rhoi cyfleoedd i sefydliadau staff a rheolwyr gyfrannu at gynlluniau i ddatblygu'r gwasanaeth ar gam cynnar.
 
	- Ystyried goblygiadau adolygiadau gwasanaeth ar staff a chanfod a cheisio cytuno ar ffyrdd newydd o weithio.
 
	- Ystyried y goblygiadau i staff o ganlyniad i ad-drefnu'r GIG ar lefel genedlaethol neu leol a gweithio mewn partneriaeth i weithredu mewn modd sy'n llwyddiannus i bawb.
 
	- Arfarnu a thrafod mewn partneriaeth berfformiad ariannol y sefydliad yn rheolaidd.
 
	- Arfarnu a thrafod mewn partneriaeth wasanaethau a gweithgareddau'r Bwrdd a'r goblygiadau.
 
	- Darparu cyfleoedd i adnabod a cheisio cytuno ar faterion ansawdd, gan gynnwys llywodraethu clinigol, yn enwedig pan fydd gan faterion o'r fath oblygiadau i staff.
 
	- Sicrhau bod partneriaid staff yn cael gwybod am benderfyniadau allweddol sydd wedi cael eu cymryd gan y Bwrdd a'r uwch reolwyr.
 
	- Ystyried datblygiadau cenedlaethol yn Strategaeth Gweithlu a Sefydliadol GIG Cymru a'r goblygiadau i'r Bwrdd gan gynnwys materion sy'n ymwneud â newid proffil gwasanaethau.
 
	- Trafod materion y penderfynir arnyn nhw'n lleol.
 
	- Sicrhau bod cynrychiolwyr sefydliadau staff yn cael amser rhesymol o'r gwaith gyda thâl i gyflawni dyletswyddau undebau llafur. 
 
	- Mewn partneriaeth datblygu cyfleusterau priodol drwy ddefnyddio Cytundeb Cyfleusterau A4C fel safon sylfaenol.
 
Mae manylion llawn rôl y Fforwm yn y Cylch Gorchwyl V7.0
Mae'r Fforwm yn cyflwyno adroddiad blynyddol ar ei weithgareddau i'r Bwrdd
	
		
			| Cadeiryddion mewn Cylchdro: | 
			 Prif Weithredwr dros dro / Mrs Jan Tomlinson, Cadeirydd ar ochr y Staff | 
		
		
			| Prif Gyfarwyddwr:  | 
			
				 Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu'r Sefydliad a'r Gweithlu 
			 | 
		
	
Ysgrifenyddiaeth : Fiona Lewis  Fiona.Lewis3@wales.nhs.uk 
Mae'r cofnodion ar gael drwy'r dolenni isod ar ôl iddyn nhw gael eu cymeradwyo. Bydd agendâu ar gael o 2019 ymlaen.
Ar gyfer cofnodion a phapurau blaenorol, cysylltwch â’r Swyddog Ysgrifenyddol perthnasol a enwir uchod