Neidio i'r prif gynnwy

Ward Plant i gynnal gwasanaeth arbennig ar gyfer teuluoedd wedi cael eu heffeithio gan golled

15/11/2022

Gwahoddir teuluoedd sydd wedi profi colli plentyn i Wasanaeth blynyddol Sêr Disglair Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae'r gwasanaeth blynyddol, a gynhaliwyd gyntaf yn 2006, yn gyfle i gofio ar y cyd a dathlu bywydau plant, ac i deuluoedd gwrdd ag eraill sydd wedi bod trwy brofiadau tebyg, yn ogystal â gweld staff ysbyty o'r ward. Cynhelir y Gwasanaeth Sêr Disglair ddydd Sul 20 Tachwedd am 2.30pm, yng Nghapel Ysbyty Maelor Wrecsam, ac mae ar agor i'r holl deuluoedd sydd wedi colli plentyn ar Ward Plant yr ysbyty, yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys neu gartref gyda chefnogaeth y timau cymunedol.

Dywedodd Rebecca Morris, Rheolwr Ward Plant Ysbyty Maelor Wrecsam: “Yn y gorffennol mae llawer o deuluoedd wedi ymuno â ni ar gyfer y gwasanaeth hwn a byddai'n hyfryd gweld yr wynebau cyfarwydd hyn eto ac i groesawu rhai wynebau newydd yn ogystal.

“Mae'r teuluoedd a'r staff i gyd yn cael cysur yn y ffaith bod y plant yn cael eu cofio mewn ffordd mor arbennig.”

Mae'r ysbyty yn gofyn i'r holl ymwelwyr a'r staff wisgo masgiau wyneb, oni bai eu bod wedi eu heithrio, o ganlyniad i gynnydd yng nghyfraddau heintiau anadlol y gaeaf dros yr wythnosau diwethaf.

Bydd masgiau ar gael wrth fynedfeydd i’n safleoedd gofal iechyd, a gofynnir i'r holl ymwelwyr ddefnyddio masgiau sy’n gwrthsefyll hylif math 2 a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd, nid gorchuddion wyneb a masgiau o’r cartref.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Arbenigwr Chwarae Emma Cunnah-Newell trwy gyfrwng e-bost - emma.cunnah-newell@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01978 725788.