Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Cymuned De Sir Ddinbych yn beicio i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys

12.05.23

Defnyddiodd gweithwyr cymorth gofal iechyd a nyrsys yn ne Sir Ddinbych bŵer pedal i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys.

Trefnwyd y daith dwy olwyn, gyda dwy nyrs yn gwisgo iwnifform o'r gorffennol, gan nyrs staff cymunedol Chris Marston (ar y chwith).

Maent yn rhan o Dîm Adnoddau Cymuned (CRT) De Sir Ddinbych, sy’n gweithio ochr yn ochr â phartneriaid gofal cymdeithasol ac wedi’u lleoli yn Neuadd y Sir, Rhuthun.

Datgelodd Chris fod y gofal a gafodd ei gŵr gan nyrsys cymunedol wedi’i hargyhoeddi i wneud y penderfyniad i ddychwelyd i nyrsio 18 mis yn ôl – ar ôl seibiant o 20 mlynedd.

“Rwy’n nyrs dychwelyd i ymarfer ac rwyf wrth fy modd,” meddai. “Mae fel ail yrfa.

“Roeddwn yn gweithio fel nyrs rhwng 1985 a 2000. A dweud y gwir dyma'r wisg ro'n i'n ei gwisgo nôl yn yr 80au pan ddechreuais i. Roedd gen i blant, yn rhedeg busnes ac roeddwn hyd yn oed yn gynghorydd sir tra roeddwn yn cael seibiant o nyrsio.

“Collais fy ngŵr, a oedd â thiwmor ar yr ymennydd, ac fe wnaeth y nyrsys ardal hyn a oedd yn gofalu amdano fy ysbrydoli i ddod yn ôl. Rydw i wedi bod yn ôl ers 18 mis ac rydw i wrth fy modd.”

Gweithio i ni - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (nhs.wales)