Neidio i'r prif gynnwy

Deintydd Arbenigol sydd wedi derbyn MBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin wedi meddwl mai "bil treth" oedd y llythyr swyddogol a ddaeth drwy'r drws

16/06/23

Roedd deintydd arbenigol, sy'n trin plant ag anableddau ac anghenion addysgol arbennig  yn ofni mai bil treth oedd y llythyr swyddogol a dderbyniodd yn dweud wrtho y byddai'n derbyn MBE.

Pan welodd Paul Leach yr amlen swyddogol, y peth olaf yr oedd yn ei ddisgwyl oedd y newyddion am y wobr am ei 35 mlynedd o wasanaeth yng Ngogledd Orllewin Cymru.

“Pan ges i’r llythyr ro’n i’n meddwl mai gorchymyn i dalu treth oedd o, oherwydd bod yr amlen yn un swyddogol,” meddai. “Roedd yn syndod mawr i mi ac mae wedi bod yn anodd dros ben cadw hyn yn gyfrinach.”

Fodd bynnag, datgelodd Paul ei fod yn hapus i dderbyn y wobr ar ran “y Bwrdd Iechyd, aelodau ei dîm a’r gwasanaeth deintyddol cymunedol”.

Wrth siarad cyn cyhoeddi’r Rhestr Anrhydeddau, bu’n son am ei fwynhad o weithio yn y swydd mae wedi ymroi iddi drwy gydol ei yrfa.

Dywedodd Paul: “Rwy’n mwynhau fy swydd. Rwy'n hoffi mynd i weithio ac rwy'n hoffi'r gwaith tîm a chwrdd â phobl amrywiol.

“Mae’n braf pan allwch chi ddatrys problemau cleifion ar eu rhan. Rwy'n cael boddhad o allu helpu. Pe bawn i’n cychwyn ar fy hyfforddiant unwaith eto byddwn i’n dewis yr un llwybr.”

Mae’r tad i dri o blant yn briod ac yn byw yn Hen Golwyn a chafodd ei swydd gyntaf yn y rhanbarth yn 1989, ar ôl mynd i’r ysgol ar Ynys Manaw ac yna astudio ym Mhrifysgol Manceinion.

Mae wedi dod yn adnabyddus am drin plant ag anableddau ac anghenion arbennig, rhywbeth y dywedodd a ddigwyddodd yn organig.

“Rydych chi'n dod i gael eich adnabod am allu gwneud rhai pethau,” esboniodd.

Mae geiriad yr anrhydedd yn cyfeirio at arbenigedd ei waith: “Deintydd gofal arbennig a pediatrig. Am wasanaeth i blant ag anableddau ac anghenion addysgol arbennig yng Ngogledd Orllewin Cymru.”

Mae’n edrych ymlaen at glywed pryd bydd yn derbyn ei MBE gan y Brenin Charles III yn Llundain ond nid ef yw’r unig un sydd wedi cyffroi.

“Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â’r Brenin ond rwy’n meddwl bod fy ngwraig yn edrych ymlaen yn fwy na fi,” meddai. “Mae hi wedi dechrau chwilio am ffrog newydd yn barod.”

Dywedodd cyfarwyddwr gofal sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Karen Higgins: “Mewn byd lle mae ein poblogaeth yn heneiddio a lle mae’r ffocws yn aml ar yr agwedd honno o ofal iechyd, mae’n hyfryd gweld Paul yn cael ei werthfawrogi am ei ffocws ar ein cleifion iau, sy’n fwy agored i niwed, gan wneud yn siŵr eu bod yn cael mynediad cyfartal at ofal deintyddol o ansawdd uchel. Mae’n wirioneddol haeddu’r anrhydedd.”