Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun brechu fferyllfa cyfleus yn helpu mwy o weithwyr i gael eu hamddiffyn rhag y ffliw

Mae miloedd o weithwyr gofal rheng flaen yn amddiffyn eu hunain yn erbyn firws y ffliw diolch i bartneriaeth brechu arloesol gyda fferyllfeydd cymunedol.

Mae bob cartref gofal yng Ngogledd Cymru wedi cael eu paru gyda fferyllfa leol i’w gwneud hi’n haws i staff gael eu brechu y gaeaf hwn.   

Mae pigiadau ffliw yn cael eu cynnig i weithwyr gofal ar draws y rhanbarth ar amser ac mewn lleoliad sy’n gyfleus iddyn nhw – yn eu gweithle, cyn neu yn ystod newid shifftiau, neu mewn clinigau arbennig gydag apwyntiadau wedi’u neilltuo.

Mae’r fenter, sy’n cael ei harwain gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus wnaeth fwy na threblu’r nifer o weithwyr gofal a dderbyniodd brechiad y ffliw y llynedd.

Mae ymarferwyr o gartrefi gofal Pendine Park yn Wrecsam yn credu fod cael y brechiad yn hanfodol er mwy amddiffyn eu hiechyd, ac iechyd y bobl hŷn maen nhw’n gofalu amdanynt.  Mae’r niferoedd wedi bod yn uchel iawn, gyda dau glinig ar gyfer staff wedi’u cynnal dros yr wythnosau diwethaf.  

 

Risg

Meddai cydlynydd gweithgareddau Pendine, Chris Lewis (61) o Wrecsam, mai ei phryder cyntaf oedd y risg y mae’r ffliw yn ei achosi i eraill sy’n fwy bregus.  

“Rydw i wedi cael y ffliw o’r blaen ac nid yw’n beth braf os ydych chi’n ei gael,” meddai.  “Byddwn yn cynghori unrhyw un sy’n gweithio o fewn gofal i’w gael – er eu diogelwch hwy a diogelwch eu preswylwyr.”

Dywedodd Alex Lee (21) o Wrecsam ei fod yn hawdd a chyfleus i gael y brechiad yn y gwaith.

“Mae mor bwysig i gadw pawb yn ddiogel,” meddai.  “Os yw pawb yn cael eu brechu yna mae’n gostwng y risg i bobl eraill sy’n fwy bregus.  Mae er mwyn gwneud pobl yn fwy diogel, felly pam na fyddech chi?”

A daeth Ashley Carr sy’n 28 mlwydd oed o Wrecsam, dros ei ffobia o nodwyddau i gael ei brechiad ffliw.

“Mae’n rhaid i chi gael y pigiad ffliw yn y gwaith yma, oherwydd bod rhaid i chi amddiffyn y cleifion gymaint ag y gallwch,” meddai.

“Os gallwch chi, mae’n well cymryd y cynnig.  Mae’n amddiffyniad ychwanegol ar gyfer y preswylwyr ac i chi a’ch teulu.”

 

Grwpiau blaenoriaeth

Mae gweithwyr gofal a gofalwyr yn y grwpiau blaenoriaeth i gael y brechiad ffliw.  Mae eraill yn cynnwys pawb dros 50 oed, plant bach dwy a thair oed, ac unrhyw un gyda chyflwr iechyd isorweddol.

Mae preswylwyr cartrefi gofal yn derbyn eu brechiad ffliw yn flynyddol gan Feddyg Teulu cofrestredig y cartref.

Rhoddodd Dhimant Patel, o’r Fferyllfa yng Nghoedpoeth, y pigiadau ffliw yn Pendine Park a bydd yn ymweld â nifer o gartrefi gofal eraill yn ardal Wrecsam yr hydref hwn.  

Mae o a’i gydweithwyr yn gweithio yn gynnar yn y bore, yn hwyr min nos ac ar benwythnosau i frechu gweithwyr ar amser ac mewn lleoliad sy’n gyfleus iddyn nhw.  

“Mae’n wych ein bod yn gallu dod allan i’r cartrefi i weld staff, a rhoi’r brechlyn iddynt yn eu lleoliad eu hunain,” meddai.  

“Mae’n golygu y gallent deimlo’n gyfforddus, y gallent ofyn unrhyw gwestiynau am fwy o wybodaeth, a galla i gymryd yr amser i siarad gyda nhw.

“Mae’r adborth rydym ni wedi bod yn ei gael yn dweud ei fod yn wych i’r staff oherwydd nad oes angen iddynt drefnu apwyntiad o gwmpas eu gwaith – ac mae’r nifer o bobl sy’n ei gael wedi cynyddu’n sylweddol o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.”

 

Haws

Dywedodd cydlynydd imiwneiddiadau Betsi Cadwaladr, Leigh Pusey fod staff gofal a gofalwyr ymysg y grwpiau pwysicaf y gaeaf hwn.  

“Rydym yn falch o sicrhau fod cael mynediad at y brechiad ffliw yn haws i weithwyr gofal drwy’r bartneriaeth arloesol hon rhwng fferyllfeydd cymunedol a chartrefi gofal,” meddai.  

“Byddwn yn annog unrhyw weithwyr gofal neu ofalwyr sydd ddim wedi derbyn eu pigiad ffliw eto i siarad â’u cyflogwr ynghylch y trefniadau, a threfnu apwyntiad yn eu meddygfa, neu drefnu ymweliad i un o’r dwsinau o fferyllfeydd cymunedol sy’n cynnig brechiadau ffliw y gaeaf hwn.”

Gall firws y ffliw fod yn angheuol ac yn nodweddiadol mae'n arwain at ddwsinau o dderbyniadau i unedau gofal critigol ledled Gogledd Cymru bob blwyddyn.

Gellir rhoi’r brechiad ffliw unrhyw bryd, heb yr angen am oedi rhwng cael y brechiad a’r brechiad atgyfnerthu COVID-19.  Mae apwyntiadau ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu yn cael eu hanfon yn uniongyrchol at y grwpiau cymwys.

Mwy o wybodaeth ynghylch y brechlyn ffliw ac cymhwyser