Neidio i'r prif gynnwy

Gwefus a thaflod hollt

Mae gwefus hollt yn fwlch yn y wefus uchaf ar y naill ochr (unochrog) neu'r ddwy ochr (dwyochrog). Mae'r daflod yn ffurfio to'r geg ac fel rheol mae'n gwahanu'r geg o'r trwyn. Mae taflod hollt yn fwlch yn nho'r geg. Darperir therapi iaith a lleferydd i blant sydd â gwefus a thaflod hollt (gan gynnwys plant ag anawsterau taflodol sy'n effeithio ar leferydd a/neu gyseiniant) fel rhan o ofal amlddisgyblaethol trwy Rwydwaith Gwefusau a Thaflod Hollt Gogledd Orllewin, Ynys Manaw a Gogledd Cymru.

Gwefan Hollt y Gogledd Orllewin