Neidio i'r prif gynnwy

Colli Clyw

Mae byddardod, neu golli clyw, yn digwydd pan na fydd un neu fwy o rannau o'r glust yn gweithio'n effeithiol. Gall hyn fod yn bresennol ar enedigaeth neu efallai y bydd plentyn yn ei ddatblygu'n ddiweddarach.

Mae'r prif fathau o fyddardod yn cynnwys byddardod dargludol ble na all sŵn basio'n effeithlon drwy'r glust (mae hyn yn cynnwys clust ludiog) a byddardod synwyrnerfol sy'n cael ei achosi drwy niwed i'r glust fewnol neu nerfau sy'n teithio o'r glust i'r ymennydd. Gellir colli clyw dros dro neu'n barhaol a gall ddigwydd mewn un glust neu'r ddwy glust. Gellir disgrifio byddardod eich plentyn fel 'ysgafn', 'cymedrol', 'difrifol' neu 'ddwys'. Gall colli clyw ei gwneud yn anoddach i blentyn gyfathrebu ac efallai y bydd angen cymorth ychwanegol i ddatblygu eu sgiliau gwrando, iaith, lleferydd neu arwyddo. Mae therapi iaith a lleferydd i blant byddar yn anelu i'w helpu i gyfathrebu hyd orau eu gallu.