Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta ac Yfed

Rydym yn gweithio gyda babanod, plant a phobl ifanc sy'n cael anawsterau gyda bwydo, bwyta ac yfed er mwyn ei gwneud hi mor ddiogel a phleserus â  phosib iddynt, gan weithio gyda theuluoedd, a lleoliadau megis ysgolion, meithrinfeydd a grwpiau chwarae. 

Mae tîm y newydd-anedig yn cefnogi babanod ar unedau'r newydd-anedig yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam sy'n cael eu geni'n sâl neu'n gynamserol yn eu taith tuag at fwydo drwy'r geg. Mae'r tîm hefyd yn cefnogi babanod sydd wedi eu geni cyn 32 wythnos ac yn pwyso llai na 1500g hyd nes eu bod yn ddwy flwydd oed, gan weithio gyda'u teuluoedd i ddatblygu eu cyfathrebu a'u bwydo.

Os oes gennych unrhyw bryder am batrymau bwyta neu yfed eich plentyn, trafodwch y rhain gydag ymwelydd iechyd neu baediatregydd eich plentyn.

Gwefan y Fenter Safoni Diet Dysffagia Ryngwladol (edrychwch am adnoddau paedaitreg yn unig)