Neidio i'r prif gynnwy

Genedigaeth y wain ar ôl llawdriniaeth Caesaraidd

Bydd llawer o fenywod sydd wedi cael llawdriniaeth Caesaraidd yn gallu geni drwy'r wain yn eu beichiogrwydd nesaf, gelwir hyn yn enedigaeth drwy'r wain ar ôl llawdriniaeth Caesaraidd (VBAC). Gall genedigaeth y wain hefyd gynnwys genedigaeth gyda chymorth gefeil geni neu gwpan sugno Ventouse.

Beth yw manteision VBAC?

Mae manteision genedigaeth drwy'r wain ar ôl llawdriniaeth Caesaraidd (VBAC) yn cynnwys:

  • Lleihau’r siawns y bydd cymhlethdodau wrth eni yn ystod unrhyw feichiogrwydd yn y dyfodol.
  • Gwella yn gynt a llai o amser yn yr ysbyty.
  • Mae llawer o fenywod eisiau osgoi llawdriniaeth fawr arall.
  • Llai o debygrwydd o ddatblygu haint, thrombosis (clotiau gwaed) a llai o siawns y bydd angen trallwysiad gwaed os byddwch yn cael genedigaeth drwy'r wain.

Beth yw anfanteision VBAC?

Gallai’r anfanteision gynnwys y canlynol:

  • Yn ystod eich cyfnod esgor fe allai ddod yn amlwg na fyddwch chi'n gallu rhoi genedigaeth drwy'r wain a bod angen i chi gael triniaeth Caesaraidd arall.
  • Mae risg fach y bydd y graith ar eich croth o'r llawdriniaeth Caesaraidd blaenorol yn agor yn ystod y cyfnod esgor. Mae nifer o astudiaethau yn dangos bod y risg hon yn isel ac y gallai ddigwydd hyd yn oed os nad ydych yn esgor. Bydd angen llawdriniaeth Caesaraidd brys os bydd hyn yn digwydd.

Sut bydd y penderfyniad yn cael ei wneud?

Bydd eich bydwraig yn trafod hyn gyda chi yn ystod eich ymweliad cynenedigol cyntaf ac yn rhoi gwybodaeth i chi i'ch helpu i ystyried yr opsiynau sydd gennych. Cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud, byddwch yn gallu trafod eich opsiynau geni gyda'ch obstetrydd a'ch bydwraig. Bydd hyn yn cynnwys eich dymuniadau personol a chynlluniau beichiogrwydd yn y dyfodol.

Nid yw VBAC yn ddewis doeth bob amser ac ystyrir bod ail doriad Caesaraidd yn ddewis mwy diogel. Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn trafod hyn yn uniongyrchol gyda chi ac yn rhoi gwybodaeth i chi er mwyn i chi fedru gwneud penderfyniad gwybodus.

A oes unrhyw beth y gallaf ei wneud i gynyddu fy siawns o gael genedigaeth drwy'r wain?

Mae paratoi ar gyfer genedigaeth, anogaeth garedig wrth esgor, a theimlo'ch bod yn cael gofal da yn helpu menywod i ymdopi â'r esgor. Gall hefyd effeithio ar hyd y cyfnod esgor a pha fath o enedigaeth a gewch.

Mae symud yn gyson a newid safle hefyd yn debygol o helpu'r esgor. Yn aml mae symud yn ffordd ddefnyddiol i ymdopi ac mae sefyll yn dalsyth yn helpu i gael pen eich babi mewn sefyllfa dda i ddisgyn i'ch pelfis.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi fynychu eich dosbarthiadau cadw’n actif cyn geni. Gofynnwch i'ch bydwraig am fanylion dosbarthiadau lleol yn eich ardal.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn dechrau esgor er i mi drefnu genedigaeth VBAC?

Fe'ch cynghorir i roi genedigaeth yn yr ysbyty fel y gellir cynnal llawdriniaeth Caesaraidd os oes angen. Cysylltwch â’r ysbyty cyn gynted ag y credwch eich bod yn dechrau esgor neu os bydd eich dŵr yn torri, a byddwch yn cael gwybod pryd i ddod i’r ysbyty.

Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Mae rhai gwahaniaethau yn y ffordd y byddwn yn gofalu amdanoch wrth esgor pan fyddwch yn cael VBAC o gymharu â rhywun nad yw erioed wedi cael triniaeth Caesaraidd. Mae eich bydwraig a'ch obstetrydd ar gael i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych am unrhyw agwedd ar eich beichiogrwydd neu’r enedigaeth.

Holwch eich bydwraig am fynychu Clinig Dewisiadau Geni lle byddwch chi'n gallu trafod opsiynau yn fwy manwl.

Adnoddau a gwybodaeth pellach