Neidio i'r prif gynnwy

Hysterosgopi

Mae ein gwasanaeth hysterosgopi un stop yn cynnig profion diagnostig a thriniaethau at ystod o wahanol gyflyrau yn cynnwys:

  • Gwaedu abnormal o’r groth (gwaedu ar ôl diwedd y mislif, mislif trwm, gwaedu rhwng mislif a gwaedu ar ôl rhyw ac ati)
  • Fel rhan o ymchwiliadau ffrwythlondeb (tynnu coil sydd ar goll neu’n sownd, tynnu polypau ffibroid bach/ endometrial, tynnu septymau, tynnu coil/gosod coil, abladiad endometrial)

Mae gwasanaeth hysterosgopi cleifion allanol yn osgoi’r angen am sawl ymweliad i’r ysbyty a hefyd yn darparu’r holl brofion a thriniaethau perthnasol fel bo’n briodol mewn un ymweliad a heb fod angen anaesthetig cyffredinol. 

Derbynnir cyfeiriadau at y gwasanaeth hwn gan feddygon teulu a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd priodol. Os bydd arnoch angen apwyntiad yn y clinig hwn, byddwch yn cael gwybodaeth a chyfarwyddiadau penodol yn ymwneud â’r apwyntiad.

Beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn dod i’r clinig?

Wrth gyrraedd yr ysbyty, byddwch angen mynd i dderbynfa’r Adran Gynaecoleg Cleifion Allanol.

Yn aml bydd ar gleifion angen sgan uwchsain cyn triniaeth. Gall y Meddyg Ymgynghorol/Meddyg wneud hyn fel rhan o’ch ymweliad neu efallai y cewch eich anfon i’r Adran Sgan i ddechrau.

Ar ôl y sgan, bydd y Meddyg Ymgynghorol neu Nyrs yn cael eich hanes manwl ac os yw canlyniad y sgan yn dangos bod hysterosgopi yn briodol, bydd y driniaeth yn cael ei egluro i chi ac yna’n cael ei gwneud. Rhoddir telesgop tenau iawn (hysterosgop) i mewn drwy’r serfics er mwyn gweld i mewn i’r groth. Efallai y bydd angen cymryd sampl bach o feinwe (biopsi) neu dynnu polyp/triniaeth arall os yw’n briodol.

Byddwch chi a’ch meddyg teulu yn cael gwybod y canlyniadau pan fyddant ar gael.