Neidio i'r prif gynnwy

Call 4 Concern©

Ydy chi’n poeni am gyflwr clinigol claf?

Mae Call 4 Concern© yn Fenter Diogelwch Cleifion gan y Tîm Ymyrraeth Acíwt yn Ysbyty Gwynedd. Mae Call 4 Concern yn wasanaeth Cleifion mewnol i oedolion.

Mae Call 4 Concern yn wasanaeth sy'n caniatáu i gleifion a theuluoedd alw am gymorth pan fyddant yn teimlo'n bryderus nad yw'r tîm gofal iechyd wedi cydnabod newid mewn cyflwr iechyd eu hunain neu ei perthynas.

Pwy ydi’r Tîm Ymyrraeth Acíwt? 

Rydym yn dîm o Ymarferwyr Nyrsio Uwch profiadol. Mae'r Tîm Ymyrraeth Acíwt ar gael 24 awr y dydd yn Ysbyty Gwynedd i helpu cefnogi timau y wardiau yng ngofal cleifion sy'n sâl.

Pryd i ddefnyddio Call 4 Concern?

Cleifion:

  • Pan fyddwch chi'n teimlo bod eich cyflwr iechyd yn gwaethygu a'ch bod yn poeni

Teuluoedd/Gofalwyr:

  • Pan fydd y claf yn edrych yn waeth neu pan nad yw'n gwneud cystal â'r disgwyl, ac nid yw eich pryderon yn cael eu cydnabod
  • Rydych chi'n teimlo bod dryswch ynglŷn â'r hyn sydd angen ei wneud i'r claf.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n poeni am glaf?

Cam 1: Siaradwch â nyrs y ward, rheolwr y ward neu feddyg. Efallai y byddant yn gallu helpu.

Cam 2: Os ydych chi dal ddim yn hapus bod eich pryderon ddim wedi cael ei ateb, gallwch wneud galwad Call 4 Concern.

Sut i wneud galwad Call 4 Concern:

  • Cysylltwch â'r Switsfwrdd yn Ysbyty Gwynedd drwy ffonio:  01248 384384. Gofynnwch am y Tîm Ymyrraeth Acíwt ar Blîp 206.
  • Rhowch wybod i'r Ymarferydd Nyrsio eich bod yn gwneud galwad “Call 4 Concern” a rhowch ddisgrifiad byr o'r broblem, gan gynnwys enw'r Claf a ward. Rhowch hefyd eich Enw a Rhif Cyswllt
  • Gallwch hefyd ofyn i aelod o’r staff (ee. Nyrs, Ffisiotherapydd ac ati) i wneud galwad Call 4 Concern ar eich rhan.

Ymateb i’ch Galwad Call 4 Concern

Ar ôl derbyn eich galwad, bydd ymarferydd nyrsio'r Tîm Ymyrraeth Acíwt yn asesu brys y broblem. Bydd yr ymarferydd nyrsio yn ymweld â'r claf ar y ward ac yn asesu'r sefyllfa a’r claf.

Bydd y Tîm Ymyrraeth Acíwt yn cysylltu â'ch tîm meddygol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn ôl yr angen.

Weithiau, ni allwn gymeryd eich galwad ar unwaith os ydym yn delio ag argyfwng. Yn yr achos hwn, rydym yn cynghori eich bod yn ffonio ni’n nol nes ymlaen neu siarad â thîm y ward os yw'n fater brys.

Pryd i BEIDIO neud galwad Call 4 Concern

Menter Diogelwch Cleifion yw Call 4 Concern ac nid proses gwyno gyffredinol.

I roi gwybod am broblemau ynglŷn â'ch gwely ysbyty, ystafell, bwyd, parcio neu unrhyw faterion cyffredinol eraill, siaradwch â'ch nyrs neu reolwr y ward. Gallwch hefyd gysylltu â'r Matron i drafod unrhyw faterion ymhellach.