Neidio i'r prif gynnwy

Cyflyrau Cyhyrysgerbydol ac Orthopedig

Mae cyflyrau cyhyrysgerbydol yn effeithio ar lawer o bobl a gallant effeithio ar eich cymalau, eich esgyrn a’ch cyhyrau, ac ar brydiau, ar feinweoedd cysylltiedig megis eich nerfau. Gallant amrywio o fân anafiadau i gyflyrau hirdymor.

Mae gan dros 20 miliwn o bobl yn y DU - bron i draean o'r boblogaeth - gyflwr cyhyrysgerbydol megis arthritis neu boen cefn. Gall symptomau gynnwys poen, anystwythder, symudiadau cyfyngedig, ac anabledd sy'n effeithio ar ansawdd bywyd ac annibyniaeth.

Poen a symudedd cyfyngedig yw prif nodweddion ystod o gyflyrau cyhyrysgerbydol. Wrth i bobl heneiddio, bydd y perygl o brofi cyflwr cyhyrysgerbydol yn cynyddu. Yn gyffredinol, mae menywod mewn mwy o berygl o brofi problemau â'u hesgyrn, eu cyhyrau a'u cymalau na dynion. Mewn llawer o achosion, bydd cyflyrau cyhyrysgerbydol yn ymyrryd â'n gallu i gynnal gweithgareddau beunyddiol arferol. Mae eich iechyd cyhyrysgerbydol yn gysylltiedig â'ch ffordd o fyw.

Gall problemau cyhyrysgerbydol fod yn gysylltiedig ag amrywiaeth o symptomau neu gyflyrau sy'n deillio o gyhyrau, esgyrn, cymalau, nerfau, tendonau neu ewynnau. Mae poen yn y gwddf a’r cefn, osteoarthritis ac anafiadau chwaraeon yn gyflyrau sy’n cael eu trin yn aml.

 

 

Gwybodaeth am Ffisiotherapi'r Bwrdd Iechyd, gan gynnwys hunanatgyfeiriadau a gwasanaethau Poen Cronig

Taflen Gwybodaeth i Gleifion: Gwasanaeth Asesu a Thrin Cyhyrysgerbydol Clinigol (CMATS) Taflen Gwybodaeth i Gleifion

Gwybodaeth am y cynllun Cenedlaethol ar gyfer Atgyfeirio Cleifion i Ymarfer Corff , y Ganolfan Arwyddion, Golwg a Sain.