Wrth i'ch plentyn dyfu o gyfnod y glasoed i fod yn oedolyn, bydd angen eich arweiniad a'ch cymorth chi o hyd i gynnal ei les, gwneud penderfyniadau da a meithrin ei wytnwch. Wrth iddynt ddod yn fwy annibynnol, helpwch nhw i gymryd cyfrifoldeb i ofalu am eu lles eu hunain, gan gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.
Anogwch nhw i ymgysylltu'n gadarnhaol â'u cymuned ac i adeiladu a chynnal perthnasoedd iach a pharchus.
Cliciwch isod i ddarganfod mwy. Cofiwch y gall un gweithgaredd gyflawni llawer o'r pum ffordd at les yn aml. Mae enghreifftiau o weithgareddau yn cynnwys:
Nid oes angen gwario arian wrth gadw at y Pum Ffordd at Les. Yn y cyfnod hwn, gallwch gefnogi'ch plentyn trwy hyrwyddo sgiliau bywyd hanfodol a'i annog i aros yn chwilfrydig ac yn barod i ddysgu pethau newydd pan fydd yn oedolyn.
Anogwch eich plentyn i ddatblygu perthnasoedd iach a pharchus, ehangu ei rwydweithiau cymorth a Chysylltu â phobl sy'n ei gefnogi. Cefnogwch nhw i barhau i Fod yn Actif trwy gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol maen nhw'n ei fwynhau. Cefnogwch nhw i Ddal Ati i Ddysgu drwy ddysgu sgiliau bywyd allweddol iddyn nhw fel sut i reoli eu harian a gosod cyllidebau. Anogwch nhw i Roi o'u hamser trwy wirfoddoli yn eu cymuned neu helpu ffrindiau neu deulu. Byddwch yn Sylwgar o nodau a dyheadau eich plentyn ar gyfer y dyfodol a’u hannog.