Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwyr Cyhoeddus Brechiadau COVID-19

Diweddariad - Rydym wrthi’n adolygu ceisiadau ac ni allwn brosesu unrhyw geisiadau newydd ar gyfer rhaglen gwirfoddolwyr cyhoeddus COVID-19 ar hyn o bryd. 

Ymunwch â’n rhaglen gwirfoddolwyr cyhoeddus brechiadau COVID-19

Bydd y swydd hon yn cynnwys:

  • Cyfarfod a chroesawu’r cyhoedd wrth iddynt gyrraedd am eu brechlyn
  • Cyfeirio unigolion at y gorsafoedd brechu
  • Atgoffa unigolion am y rheolau cadw pellter cymdeithasol/ gwisgo masg / diheintio dwylo

Mae’r rôl wobrwyol hon yn gyfle i helpu eich cymunedau lleol yn y frwydr yn erbyn y pandemig. Mae’n rhaid i chi fod o leiaf 17 oed i ymgeisio.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn wirfoddolwr, cysylltwch â’n tîm gwirfoddolwyr gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost dilynol: BCU.Robins@wales.nhs.uk