Neidio i'r prif gynnwy

Pobl ifanc yn gwobrwyo Bwrdd Iechyd am ei ymroddiad i wella profiad cleifion

20/04/2023

Mae Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru (NWAS) wedi derbyn gwobr genedlaethol, a arolygwyd ac a ddyfarnwyd gan bobl ifanc am ei waith yn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc, a’u teuluoedd a’u gofalwyr, yn cael eu clywed a’u cefnogi.

Mae NWAS, gwasanaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn cefnogi pobl ifanc sydd angen cymorth iechyd meddwl arbenigol naill ai yn yr ysbyty neu gartref.

Dyfarnwyd Nod Barcud i’r gwasanaeth am ei waith yn gwreiddio profiad cleifion yng nghalon eu gwasanaeth i wella’r profiad i bobl ifanc sy’n ymwneud â’r gwasanaeth.

Yng Nghymru, mae saith Safon Cyfranogiad Cenedlaethol i helpu sefydliadau ac unigolion wneud yn siŵr bod y broses, ansawdd a’r profiad o unrhyw gyfranogiad yn dda i blant a phobl ifanc. Mae Nod Barcud y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol yn wobr y gall sefydliadau gyflawni os ydyn nhw’n profi eu bod yn cyflawni yn erbyn y Safonau Cenedlaethol.

Fis diwethaf cyflwynodd NWAS ei waith ar wella profiad cleifion i’r bobl ifanc sy’n gwirfoddoli gyda’r elusen Youth Cymru.

Dywedodd Lousie Bell, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc y Bwrdd Iechyd (CAMHS): “Rydw i wrth fy modd bod y gwasanaeth wedi derbyn y fath wobr fawreddog ac mae wedi ei gydnabod gan bobl ifanc am ei ymroddiad eithriadol, gan yr holl staff sy’n gweithio gyda gwasanaethau NWAS, i wella canlyniadau i bobl ifanc drwy ymgysylltu a chyfranogiad.

“Fe wnaethon ni gyflwyno 57 darn o dystiolaeth sylweddol o’i ymroddiad i weithio’n agos â phobl ifanc. Gall NWAS fel gwasanaeth ddangos tystiolaeth o arfer da yn erbyn pob un o’r safonau o fewn y disgwyliadau i gyflawni Nod Barcud.”

Gwobrwyodd y bobl ifanc yn yr ymchwiliad NWAS gyda’r Nod Barcud a rhoi adborth i’r gwasanaeth ar ei ymroddiad i wella profiad cleifion.

Dywedodd Mathew Robertshaw, Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro: “Bydd NWAS yn parhau i hyrwyddo cyfranogiad ac ymgysylltiad a chynnwys pobl ifanc yn ei gynllunio, datblygiad a monitro gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol. Mae dal nifer o feysydd y gallwn eu gwella a chryfhau ein harlwy ac rydw i’n edrych ymlaen at weithio ar y rhain dros y flwyddyn nesaf.”

Mae’r Nod Barcud wedi ei gymeradwyo gan Senedd Cymru, am bedair blynedd. Mae’r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol yn cefnogi gwasanaethau yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn monitro effeithiolrwydd datblygu cyfranogiad ieuenctid o fewn eu sefydliadau. Mae hyn yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cymryd rhan wrth ddylunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau.

Dywedodd Jane Berry, Arweinydd Profiad Cleifion i CAMHS: “Mae’r gwaith yn NWAS yn arddangosiad gwych o sut mae BIPBC yn ymdrechu i weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn dull seiliedig ar hawliau plant ac wrth wella profiadau plant a phobl ifanc pan fyddant yn derbyn cymorth gan wasanaethau iechyd.”

Am ragor o wybodaeth cliciwch yma NWAS