Neidio i'r prif gynnwy

Offer mamolaeth newydd yn Ysbyty Glan Clwyd

22/09/22

Mae uned mamolaeth Ysbyty Glan Clwyd wedi buddsoddi mewn offer newydd er mwyn rhoi profiad gwell i ferched wrth roi genedigaeth.

Mae mat geni, bag ffa, goleuadau a system eni newydd wedi cael eu hychwanegu at un o’r ystafelloedd esgor i gynorthwyo gyda genedigaethau ymysg merched â risg uchel.

Defnyddiodd staff ar yr uned adborth o brofiadau cleifion yn yr ysbyty i ddewis offer sy'n gwella cysur a symudedd i ferched sydd â risg uwch wrth roi genedigaeth.

Dywedodd y Fydwraig Sami Roberts: "Mae merched â risg isel yn cael y cyfle i esgor a rhoi genedigaeth yn ein hystafelloedd hyfryd yn yr Uned dan Arweiniad Bydwragedd, ac roeddem ni'n teimlo ei bod yn annheg nad oedd merched â risg uchel yn cael cynnig yr un profiad.

"Mae gwelyau yn yr ystafelloedd eraill y gellir eu troi'n gadeiriau, monitorau symudol a goleuadau i greu awyrgylch ond yn anffodus, maen nhw'n edrych yn glinigol iawn!

Gan ein bod ni wedi adnewyddu Ystafell 3 erbyn hyn, mae gennym ni amgylchedd delfrydol i ferched sydd â risg uchel ond sy'n dal yn awyddus i symud ac i gael eu trin fel cleifion risg isel."

"I rai merched, efallai y caiff yr ystafell hon ei gweld yn gyfaddawd - efallai y bydd yn awyddus i roi geni yn yr Uned dan Arweiniad Bydwragedd ond y cyngor yw bod yn yr ystafelloedd esgor i gael monitro ychwanegol. 

"Mae'r ystafell hon yn golygu bod ein merched yn dal yn gallu cael yr un amgylchedd cartrefol yr oeddent yn awyddus i'w gael yn y lle cyntaf, gan hefyd barhau i fod mor ddiogel â phosibl."

Bydd yr offer newydd o fudd yn bennaf i ferched yr ystyrir bod ganddynt feichiogrwydd risg uchel ac sy'n derbyn gofal dan arweiniad meddygon ymgynghorol.

Dywedodd Sami: "Efallai na fydd rhai merched hyd yn oed yn meddwl am symud ond gan fod yr offer yn weladwy, mae'n bosibl y bydd yn eu hannog i wneud hynny."

Mae'r ystafell ar ei newydd wedd yn caniatáu i ferched ddefnyddio monitorau calon y ffetws. Mae'r rhain yn caniatáu i staff fonitro calon y ffetws yn ddiogel tra bod merched yn gallu dilyn eu greddf naturiol i barhau i fod ar eu traed ac i symud.

Mae meddu ar yr offer hwn yn cynnig mwy o ddewisiadau i ferched ac efallai y bydd yn lleihau'r angen am analgesia cryfach, gan y gallai merched ymdopi'n well os ydynt yn gallu symud yn hytrach nag aros ar wely trwy gyfnod y cyfnod esgor.